Elin Wägner

Elin Wägner
Ganwyd16 Mai 1882 Edit this on Wikidata
Lund Cathedral parish Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1949 Edit this on Wikidata
Berg parish Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Swyddseat 15 of the Swedish Academy Edit this on Wikidata
TadSven Wägner Edit this on Wikidata
PriodJohn Landquist Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrif Gwobr Samfundet De Ni Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Elin Wägner (16 Mai 1882 - 7 Ionawr 1949) a oedd yn newyddiadurwr, yn berson cyhoeddus, yn ecolegydd cynnar ac yn heddychwraig. Fe'i derbyniwyd yn rhan o Academi Sweden yn 1944.

Ganed Elin Matilda Elisabet Wägner yn Lund yn ne Sweden ar 16 Mai 1882 a bu farw yn Kronoberg ac fe'i claddwyd ym Mynwent Norra.

Roedd yn ferch i brifathro ysgol, a phan oedd yn dair oed, bu farw ei mam. Bu'n briod i John Landquist.[1][2][3][4][5][6][7][8]

Hawliau merched

[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Rädda Barnen, sy'n cyfateb i Gynghrair Rhyngwladol Save the Children, ac am ddatblygu Ysgol y Dinesydd Benywaidd yn Fogelstad, ble dysgai hawliau sifil, fel pwnc. Mae llyfrau ac erthyglau Wägner yn canolbwyntio ar bynciaun ymwneud â menywod, hawliau sifil, pleidleisiau (etholfraint) i fenywod, y mudiad heddwch, lles, a llygredd amgylcheddol. Ynghyd â Fredrika Bremer, ystyrir Wägner yn aml yr arloeswr ffeministaidd pwysicaf a mwyaf dylanwadol Sweden. [9]

Bu'n gyfrifol am sefydlu a golygu'r cylchgrawn Tidevarvet rhwng 1924 a 1927.[10]

Yr awdur

[golygu | golygu cod]

Roedd yn awdur toreithiog, ac ysgrifennodd nifer o nofelau (a dramau-ffilm) sy'n parhau i gael eu darllen heddiw. Y mwyaf poblogaidd yw:

  • Norrtullsligan ("Dynion, ac Aflwyddiannau Eraill", 1908),
  • Pennskaftet ("Y Llaw ar yr Ysgrifbin", 1910),
  • Åsa-Hanna (1918),
  • Kvarteret Oron ("Cornel Stormus", 1919),
  • Silverforsen ("Y Dyfroedd Geirwon, Arian", 1924),
  • Vändkorset ("Y Llidiart", 1934),
  • Väckarklocka ("Cloc Larwm", 1941) a
  • Vinden vände bladen ("Yr Awel a Drodd y Tudalennau", 1947).

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Swedeg, Cymdeithas Y Naw a Chartref y Swedeg, am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Prif Gwobr Samfundet De Ni (1923) .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Elin Wägner (1882-1949)". dyddiad cyrchiad: 24 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Norra kyrkogården i Lund". Cyrchwyd 12 Mai 2023.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "Elin Matilda Elisabeth Wägner". "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
  5. Dyddiad marw: "Elin Matilda Elisabeth Wägner". "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Bergs kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00028/C/4 (1920-1949), bildid: 80007270_00183". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
  6. Man geni: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
  7. Man claddu: "Wägner, Elin Matilda Elisabet". Cyrchwyd 10 Mai 2023. "Norra kyrkogården i Lund". Cyrchwyd 12 Mai 2023.
  8. Tad: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
  9. Aelodaeth: http://www.samfundetdenio.se/.
  10. Karl Erik Gustafsson; Per Rydén (2010). A History of the Press in Sweden (PDF). Gothenburg: Nordicom. ISBN 978-91-86523-08-4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Chwefror 2015. Cyrchwyd 13 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)