Elsie Inglis | |
---|---|
Ganwyd | Eliza Maude Inglis 16 Awst 1864 Nainital |
Bu farw | 26 Tachwedd 1917 Newcastle upon Tyne |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | Triple Qualification |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Tad | John Inglis |
Mam | Harriet Lowis Thompson |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Sant Sava |
Meddyg, llawfeddyg, athrawes, a swffragét o'r Alban oedd Elsie Inglis (16 Awst 1864 - 26 Tachwedd 1917) a sylfaenydd Ysbytai Merched yr Alban. Hi oedd y fenyw gyntaf i ddal Urdd Serbaidd yr Eryr Gwyn. Roedd Inglis yn anfodlon â safon y gofal meddygol oedd ar gael i fenywod ac arweiniodd hyn at weithredu gwleidyddol drwy'r mudiad etholfraint, a fynnasi yr hawl i fenywod gael pleidleisio. O 1906, a sefydlu Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod yr Alban, bu Inglis yn ysgrifennydd mygedol a pharhaodd yn y rôl hon hyd at 1914. Roedd wedi troi’n 50 ar ddechrau’r gwrthdaro, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Er gwaethaf gwrthwynebiad y llywodraeth, sefydlodd Inglis Bwyllgor Ysbytai Merched yr Alban ar gyfer Gwasanaeth Tramor, sefydliad a dderbyniodd arian gan y mudiad pleidlais i fenywod i ddarparu pob ysbyty wrth gefn â staff benywaidd ar gyfer ymdrech rhyfel y Cynghreiriaid, gan gynnwys meddygon a staff technegol (cyflogedig) ac eraill gan gynnwys nyrsys a gweithwyr cludiant.
Ganwyd hi yn Nainital yn 1864 a bu farw yn Newcastle upon Tyne yn 1917. Roedd hi'n blentyn i John Inglis a Harriet Lowis Thompson. [1][2][3][4]
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Elsie Inglis yn ystod ei hoes, gan gynnwys;