![]() | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Yr holl 751 o seddi i Senedd Ewrop 353 sedd sydd angen i gael mwyafrif | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 50.66%[2] ![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Map o Ewrop yn dangos y grŵp seneddol Ewropeaidd yn arwain ym mhob Etholiaeth. Mewn etholiaethau lle cafodd rhai grwpiau'r un nifer o seddi, arddangosir y grwpiau sydd â'r rhan fwyaf o'r seddi gyda streipiau.
Grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP) Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D) Renew Europe (RE) Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (G/EFA) Hunaniaeth a Democratiaeth (ID) Ceidwadwyr a Diwygwry Ewrop (ECR) Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig (GUE/NGL) Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp pleidiau (NI) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad Senedd Ewrop rhwng Mai 23 a 26, y nawfed etholiad seneddol ers yr etholiadau uniongyrchol cyntaf ym 1979. Mae cyfanswm o 751 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau) yn cynrychioli mwy na 512 miliwn o bobl o 28 aelod-wladwriaeth. Ym mis Chwefror 2018, roedd Senedd Ewrop wedi pleidleisio i leihau nifer yr ASEau o 751 i 705 pe bai'r Deyrnas Unedig yn tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawth 2019. [3] Fodd bynnag, cymerodd y Deyrnas Unedig ran ochr wrth ochr ag aelod-wladwriaeth eraill yr UE ar ôl etyniad Erthygl 50 i 31 Hydref; felly, arhosodd dyraniad y seddi i'r aelod-wladwriaeth a'r nifer cyfan o seddi yr un fel y bu yn 2014. [4] Cafodd Nawfed Senedd Ewrop ei sesiwn lawn gyntaf ar 2 Gorffennaf 2019. [5]
Ar 26 Mai 2019, enillodd Plaid Pobl Ewrop dan arweiniad Manfred Weber y rhan fwyaf o'r seddi yn Senedd Ewrop, gan wneud Weber yn Lywydd nesaf y Comisiwn Ewropeaidd. [6][7] Er gwaethaf hyn, penderfynodd y Cyngor Ewropeaidd ar ôl yr etholiad enwebu Ursula von der Leyen fel Llywydd newydd y Comisiwn. Dioddefodd y pleidiau chiwth-canol a de-canol golledion sylweddol, tra gwnaeth pleidiau canolbleidiol, rhyddfrydol ac amgylcheddol o blaid yr UE a phleidiau poblyddol asgell-dde ac estrongasol gwrth-UE enillion sylweddol. [8][9]
Ar 7 Mehefin 2018, cytunodd y Cyngor ar lefel llysgenhadon i newid cyfraith etholiadol yr UE a diwygio hen ddeddfau o Ddeddf Etholiadol 1976. Diben y diwygiad yw cynyddu'r nifer o bobl sydd yn pleidleisio mewn etholiadau, codi dealltwriaeth eu cymeriad Ewropeaidd ac atal pleidleisio afreolaidd ac ar yr un pryd parchu traddodiadau cyfansoddiadol ac etholiadol yr aelod-wladwriaethau.[10] Gwahardda'r diwygiad bleidleisio dwbl a phleidleisio mewn trydydd gwledydd, felly gwella gwelededd pleidiau Ewropeaidd.[10] Er mwyn osgoi pleidleisio dwbl, mae'n rhaid i awdurdodau gyfnewid data pleidleiswyr.[10]
Rhoddodd Senedd Ewrop ei chydsyniad ar 4 Gorffennaf 2018 a mabwysiadwyd y Ddeddf gan y Cyngor ar 13 Gorffennaf 2018. Fodd bynnag, ni chadarnhaodd pob aelod-wladwriaeth y Ddeddf cyn etholiadau 2019, a felly digwyddodd yr etholiad hwn yn unol â'r rheolau blaenorol. [11][12]
Mae proses y Spitzenkandidat yn cynnwys enwebiad ymgeiswyr gan bleidiau gwleidyddol Ewropeaidd ar gyfer rôl Llywydd y Comisiwn, gyda'r blaid yn ennill y rhan fwyaf o'r seddi yn Senedd Ewrop yn cael y cyfle cyntaf i geisio ffurfio mwyafrif ar gyfer cefnogi eu hymgeiswyr (yn debyg i sut yr etholwyd pennaeth llywodraeth mewn democratiaethau seneddol gwladol). Defnyddiwyd y broses hon am y tro cyntaf yn 2014 a'i gwrthwynebwyd gan rhai yn y Cyngor Ewropeaidd. Mae dyfodol y broses yn ansicr, ond mae Senedd Ewrop wedi ceisio codeiddio y broses ac mae'r pleidiau bron yn sicr i ddewis yr ymgeiswyr yn y ffordd hon eto.[13] Ar 23 Ionawr 2018, mabwysiadodd y Pwyllgor ar Faterion Cyfansoddiadol destun yn dweud na ellir gwrthdroi proses y Spitzenkandidat, ac y bydd y Senedd "yn barod i wrthod unrhyw ymgeisydd yng ngweithdrefn arwisgo Llywydd y Comisiwn na phenodwyd fel Spitzenkandidat yn y cyfnod cyn yr etholiadau Ewropeaidd".[14]
Ym mis Mai 2018, awgrymodd pôl Eurobaromenter bod 49% o'r 27,601 o unigolion o bob 28 gwlad yr UE yn meddwl y bydd proses y Spitzenkandidat yn eu helpu i bleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd nesaf, tra mae 70% hefyd yn meddwl bod angen dadl iawn ar faterion Ewropeaidd ar y broses.[15]
Dywedodd y deiliad Jean-Claude Juncker na fyddai'n ceisio ail dymor fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[16]
Ceisiodd dau ymgeisydd enwebiad yr EPP:
Yn eu Cyngres 2018 yn Helsinki, etholodd yr EPP Manfred Weber fel eu Spitzenkandidat ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[19]
Gadawodd yr ymgeisydd blaenorol Martin Schulz Senedd Ewrop yn 2017 i arwain Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen, ond rhoddodd y gorau i'r swydd olaf yn 2018.
Enwebwyd dau ymgeisydd gan aelod-bleidiau a sefydliadau:
Cynullodd y blaid mewn Cyngres eithriadol yn Libon i gadarnhau etholiad yr ymgeisydd ac i bleidleisio ar y maniffesto.
Jan Zahradil, ASE dros Blaid Ddemocrataidd Ddinesig y Weriniaeth Tsiec, yw Spitzenkandidat y Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop.
Fel yn 2014, mabwysiadodd Plaid Werdd Ewrop yr egwyddor o ddewis dau ymgeisydd blaenllaw ar gyfer Etholiadau Ewrop 2019.[22] Yn wahanol i 2014, lle dewiswyd yr ymgeiswyr trwy ragetholiadau agored ar-lein, etholwyd y ddau ymgeisydd gan y blaid ym Merlin ym mis Tachwedd 2018.[23] Four people, two of them being currently MEPs, have declared their candidacy:[23]
Yn eu Cyngres 2018 ym Merlin, etholodd y blaid Ska Keller a Bas Eickhout fel eu Spitzenkandidaten ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Oriol Junqueras, hanesydd ac academydd Catalanaidd a chyn Is-lywydd Catalwnia a garcharwyd o achos ei ran yn refferendwm ar annibyniaeth Catalwnia 2017, oedd Spitzenkandidat Cynghrair Rhydd Ewrop.[24][25]
Yn hytrach na chyflwyno un ymgeisydd, cyflwynodd grŵp yr ALDE Dîm Ewrop o saith person fel ymgeiswyr blaenllaw y gynghrair:[26]
Violeta Tomič o Slofenia ac undebwr llafur Belgaidd Nico Cué oedd yr ymgeiswyr dynodedig.[30]
Roedd disgwyl i'r grŵp Ewrop dros Ryddid a Democratiaeth Uniongyrchol ddiddymu ar ôl yr etholiad. Un rheswm oedd bod ei ran fwyaf o ASEau yn dod o'r Deyrnas Unedig, a ddisgwylwyd ers tro i adael yr UE cyn yr etholiad. Yr ail reswm oedd bod yr ail bartner mwyaf, Mudiad Pum Seren (M5S), yn teimlo'n anesmwyth am y gynghrair hon beth bynnag, wedi ceisio'n aflwyddiannus ymuno y Gwyrddion/EFA neu grŵp ALDE yn lle. Ym mis Chwefror 2019, cyflwynodd M5S, ochr yn ochr â phartneriaid o Groatia, y Ffindir, Gwlad Groeg a Gwlad Pwyl, cynghrair newydd o bleidiau gwrth-sefydliad sydd yn honni nad ydynt yn chwith nac yn dde.[31]
Y Mudiad yw cynghrair o bleidiau poblyddol a sefydlwyd gan Steve Bannon yn 2018 gyda'r diben o gystadlu'r etholiadau Ewropeaidd. Roedd y pleidiau cyfrannog yn cynnwys, o leiaf dros dro, Lega Nord, Plaid Pobl Gwlad Belg a Brodyr yr Eidal, ac efallai Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Bwriadwyd yn wreiddiol fel ymdrech i uno'r pleidiau poblyddol yn Ewrop, hyd yn hyn anwybyddwyd Y Mudiad gan Amgen ar gyfer yr Almaen,[32] Plaid dros Ryddid Awstria[33] a Plaid Annibyniaeth y DU.[34] Ym mis Mawrth 2019, aseswyd newyddiadurwyr brosiect Bannon fel methiant.[35][36] Ychydig cyn yr etholiad, ymbellhaodd Marine Le Pen o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc oddi wrth Bannon, yn egluro na chwaraeodd e unrhyw ran yn ymgrych ei phlaid.[37]
Ym mis Ebrill 2019, lansiodd Matteo Salvini o Lega'r Eidal y Gynghrai Ewropeaidd o Bobloedd a Chenhedloedd fel clymblaid newydd o bleidiau poblyddol, ewrosgeptig caled a gwrth-fewnfudo. Fe'i ymunwyd gan y rhan fywaf o aelodau'r hen grŵp Ewrop o Genhedloedd a Rhyddid (gan gynnwys Lega, Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Plaid dros Ryddid Awstria a Phlaid dros Ryddid yr Iseldiroedd yn ogystal â rhai cyn bleidiau yr EFDD (Amgen ar gyfer yr Almaen) a'r ECR (Plaid Pobl Denmarc a Plaid y Ffiniaid). Fe'i ragwelwyd dod yn y pedwerydd grŵp mwyaf yn y Senedd gyda amcangyfrif o fwy na 80 o ASEau.[38]
Gwelodd 2019 yr ymddangosiad cyntaf o bleidiau newydd fel Wiosna Gwlad Pwyl, Plaid Môr-ladron Gweriniaeth Tsiec, USR-PLUS Rwmania, Tarian Ddynol a Most Croatia, ĽSNS a Slofacia Flaengar Slofacia. Mae rhai o'r pleidiau newydd eisoes wedi ymuno â phleidiau Ewropeaidd, e.e. aelod o ALDE yw LMŠ Slofenia.
Y blaid newydd fwyaf yw La République En Marche! (LREM) Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron a ffurfiwyd yn 2016 ac enillodd etholiadau arlywyddol a seneddol Ffrainc y flwyddyn wedyn. Yn wreiddiol, ymwrthododd hi ag ymuno unrhyw un o'r grwpiau plaid presennol, yn lle ceisio ffurfio grwp seneddol newydd o ganolbleidwyr sydd yn cefnogi cynlluniau Macron i ddiwygio sefydliadau yr UE, yn denu aelodau oddi wrth ALDE, EPP a S&D.[39][40] Roedd disgwyl i ddarpar bartneriaid ar gyfer prosiect o'r fath gynnwys Ciudadanos Sbaen, Slofacia Flaengar a Mudiad Momentwm Hwngari.[39] Fodd bynnag, ystyriwyd bod y grŵp damcaniaethol yn cael anawsterau i ddod o hyd i ASEau o saith aelod-wladwriaethau o leiaf sydd eu hangen er mwyn ffurfio grŵp newydd.[39] Ym mis Tachwedd 2018, penderfynodd LREM gydweithio gyda'r grŵp rhyddfrydol ALDE yn lle. Serch hynny, pwysleisiodd Macron taw dim ond cynghrair rhydd oedd hyn ac nid aelod o'r Ewroblaid ALDE oedd ei blaid. Beirniadodd e ALDE am dderbyn rhoddion oddi wrth y grŵp cemegol Bayer-Monsanto yn blaen wrth i bennaeth ymgyrch LREM fygwth i alw'r gynghrair yn ôl.[41] Ym mis Ebrill a Mai 2019, parhaodd LREM ei hymdrechion i adeiladu grŵp ehangach, gan gynnwys yr ALDE, ond hefyd pleidiau canolbleidiol a chwith-canol y tu allan i'r ALDE.[42][43]
Enillodd y Blaid Brexit newydd 29 o seddi yn y Deyrnas Unedig.[44]
Safodd y Gwanwyn Ewropeaidd, a gychwynwyd o Fudiad Democratiaeth yn Ewrop 2025 (DiEM25), fel cynghrair plaid Ewrop gyfan gyda un weledigaeth ar gyfer Ewrop, y Fargen Newydd Werdd Ewropeaidd.[45] Y ffigur amlycaf yw cyn weinidog Gwlad Groeg Yanis Varoufakis, a safodd fel ymgeisydd yn etholaeth yr Almaen, ond methodd sicrhau sedd.[46] Er gwaethaf casglu tuag un a hanner miliwn o bleidleisiau, ni etholwyd unrhyw gynrychiolydd a safodd ar gyfer DiEM25, oherwydd yr oedd y pleidleisiau ar wasgar ledled gwledydd gwahanol yr UE.[47]
Fel plaid newydd Ewrop gyfan, sefydlwyd Volt Europa mewn gwledydd Ewropeaidd gwahanol ddwy flynedd cyn yr etholiadau ac ymgyrchodd yn llwyddiannus mewn wyth gwledydd yr UE ar gyfer yr etholiadau gydag un rhaglen drawswladol.[48] Er nad oedd ganddi y nod i greu grŵp seneddol ar ei phen ei hun, tua hanner miliwn o bleidleisiau oedd digon i anfon un o'r sefydlydd, Damian Boeselager, i Senedd Ewrop trwy restr Volt yr Almaen.[49] Since June 2019, Volt is part of the group of the Greens/EFA.[50]
Dyddiad | Amser
(CEST) |
Sefydliad | Cyfranogwyr | Lleoliad | Iaith | Prif gyflwynydd(ion) |
---|---|---|---|---|---|---|
17 Ebrill 2019 | 21:00 | France 24 a RFI[51] | Timmermans a Weber | Strasbwrg | Ffrangeg | Caroline de Camaret (France 24) a Dominique Baillard (RFI) |
17 Ebrill 2019 | 22:00 | France 24[52][53] | Timmermans a Weber | Strasbwrg | Saesneg | Catherine Nicholson (France 24) |
29 Ebrill 2019 | 19:00 | Politico Europe[54] | Eickhout, Timmermans, Tomić, Verhofstadt a Zahradil | Maastricht | Saesneg | Ryan Heath (Politico Europe) a Rianne Letschert (Maastricht University) |
2 Mai 2019 | 18:00 | Financial Times[55] | Keller, Timmermans, Verhofstadt a Weber | Fflorens | Saesneg | Martin Sandbu (Financial Times) |
7 Mai 2019 | 20:15 | ARD[56] | Timmermans a Weber | Cwlen | Almaeneg | Ellen Ehni ac Andreas Cichowicz (both ARD) |
15 May 2019 | 21:00 | EBU[57] | Cué, Keller, Timmermans, Vestager, Weber, a Zahradil | Brwsel | Saesneg | Emilie Tran Nguyen (France Television), Markus Preiss (ARD Germany), ac Annastiina Heikkilä (YLE Finland) |
16 Mai 2019 | 20:15 | ZDF and ORF[58] | Timmermans a Weber | Berlin | Almaeneg | Peter Frey (ZDF) ac Ingrid Thurnher (ORF) |
21 Mai 2019 | 22:00 | NOS and NTR[59] | Timmermans a Weber | Hilversum | Almaeneg ac Iseldireg | Jeroen Wollaars (NOS) |