Eugenio Florit | |
---|---|
Ganwyd | Eugenio Florit y Sánchez de Fuentes ![]() 15 Hydref 1903 ![]() Madrid ![]() |
Bu farw | 22 Mehefin 1999 ![]() Miami ![]() |
Dinasyddiaeth | Ciwba ![]() |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, beirniad llenyddol ![]() |
Bardd, cyfieithydd, a beirniad llenyddol o Giwba a aned yn Sbaen oedd Eugenio Florit (15 Hydref 1903 – 22 Mehefin 1999) sy'n nodedig am ei delynegion. Cyhoeddodd 34 o gyfrolau o farddoniaeth yn ystod ei oes.
Ganwyd ym Madrid, Teyrnas Sbaen. Symudodd i Giwba yn 14 oed. Astudiodd am radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol La Habana. Roedd yn gysylltiedig â Revista de Avance. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd yn 1940, a chafodd swydd yn y gonswliaeth Giwbaidd. Ysgrifennodd ar gyfer y cylchgrawn Ciwbaidd Orígenes, ac yn Efrog Newydd cyd-olygodd Revista hispánica moderna gyda Federico de Onís ac Angel del Río.[1] Dechreuodd weithio yng Ngholeg Barnard yn 1944, a bu'n addysgu llenyddiaeth Sbaeneg ac America Ladin nes iddo ymddeol yn 1969. Fe'i penodwyd yn athro emeritws ar bwnc llên America Ladin. Bu farw yn ei gartref ym Miami yn 95 oed.[2]