Eva Ström | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ionawr 1947 Lidingö |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | bardd, llenor, meddyg, beirniad llenyddol |
Adnabyddus am | Revbensstäderna |
Plant | Karin Ström |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Aniara, Gwobr Samfundet De Nios Särskilda, Gwobr Tegnérpriset, Harry Martinson-priset, De Nios Vinterpris, Q10511054, Gerard Bonnier Poetry Award, Ján Smrek Prize |
Awdures a meddyg o Sweden yw Eva Ström (ganwyd 4 Ionawr 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, bywgraffydd, awdur geiriau caneuon a beirniad llenyddol.[1] Mae'n fam i'r gantores a'r awdur Karin Ström, a aned yn 1977.
Fe'i ganed yn Lidingö, swydd Stockholm ar 4 Ionawr 1947.[2]
Yn 1877 y cyhoeddodd ei gwaith pwysig cyntaf, sef cyfrol o gerddi o'r enw Den brinnande zeppelinaren. O ddydd i ddydd, rhwng 1974 a 1988, gweithiai fel meddyg, cyn troi'n awdur proffesiynol.
Derbyniodd Wobr Llenyddiaeth Cyngor y Gwledydd Llychlynnaidd yn 2003 am ei chasgliad o gerddi, Revbensstäderna ("Dinasoedd yr Asennau") ac yn Ionawr 2010, fe'i hetholwyd yn aelod o Academi Frenhinol Gwyddoniaeth Sweden am ei chyflawniadau yn y dyniaethau ac am wasanaeth rhagorol i wyddoniaeth. [3][4]