Evan Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1878 Casllwchwr |
Bu farw | 29 Medi 1951 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, glöwr |
Prif arweinydd Diwygiad 1904–1905 oedd Evan Roberts (8 Mehefin 1878 – 29 Ionawr 1951).
Wedi ei eni yng Nghasllwchwr bu'n lowr am ddeuddeg mlynedd o'r adeg pan adawodd ysgol tan ei fod yn 23 mlwydd oed. Yn 1904 aeth i astudio am y weinidogaeth yng Nghastell Newydd Emlyn. Yn dilyn clywed y diwygiwr Seth Joshua ym Mlaenannerch cafodd brofiad a wnaeth iddo gredu ym 'Medydd yr Ysbryd'. Yn Hydref 1904 dechreuodd Evan Roberts annerch cyfarfodydd ac mewn byr o dro y roedd yn denu miloedd i wrando arno. Fe'i ystyrir fel un o hoelion wyth Diwygiad 1904 oherwydd hyn.
Ymwelodd â Sir Fôn rhwng 6 Mehefin 1905 a 4 Gorffennaf 1905. Cafodd amser anodd yn Lerpwl a chafodd gyngor meddygol i gymryd seibiant.