Defnyddir yr acronym FODMAP (Saesneg: Fermentable, Oligo-saccharides, Di-saccharides, Mono-saccharides And Polyols) i gyfeirio at garbohydradau a monosacaridau cadwyn fer nad ydynt yn cael eu hamsugno'n dda yn y coluddyn bach, gan gynnwys ffrwctanau, galactanau, ffrwctos a pholyolau.
Darganfuwyd bod cyfyngu FODMAP yn y diet yn helpu dioddefwyr syndrom coluddyn llidus ac anhwylderau eraill sy'n effeithio ar weithrediad y coluddyn. Datblygwyd y diet isel mewn FODMAP ym Mhrifysgol Monash ym Melbourne.[1]
Mae pawb yn ei chael yn anodd amsugno carbohydradau FODMAP. Mae unrhyw FODMAP heb eu hamsugno yn y coluddyn bach yn mynd ymlaen i'r coluddyn mawr, lle y bydd bacteria'n eu heplesu. Gall y nwy a gynhyrchir yma chyddo'r bol a chynhychu gwynt. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn dioddef gan symptomau mawr ond mewn rhai, ceir symptomau syndrom coluddyn llidus. Dangoswyd bod cyfyngu FODMAP yn niet y sawl sy'n dioddef yn gwella'u symptomau.[2]
Mae arwyddocâd ffynonellau FODMAP yn amrywio gan ddibynnu ar ddaearyddiath, ethnigrwydd a ffactorau eraill.[3]
Mae ffrwctanau mewn gwenith, rhyg, nionod, garlleg, artisiogau Jerwsalem ac artisiogau glob, asbaragws, siocled a chynhwysion cynfiotig fel ffrwctooligosacarid, oligoffrwctos ac inwlin.[2][3]
Ffacbys a ffa yw'r ffynonellau mwyaf.[2]
Ceir polyolau'n naturiol mewn rhai ffrwythau (yn enwedig ffrwythau â charreg), gan gynnwys afalau, bricyll, ceirios, eirin, eirin gwlanog, litshis, melonau dŵr, neithdarennau a rhai llysiau, gan gynnwys afocados, blodfresych, madarch a phys mange-tout. Fe'u defnyddir nhw hefyd fel melyswyr artiffisial, er enghraifft, isomalt, maltitol, manitol, sorbitol a syltiol.[2][3]
Dylid osgoi ffrwctos mewn nifer o ffrwythau fel afalau, gellyg, mangos a melonau dŵr, yn ogystal â ffrwythau sych, er enghraifft datys, ffigys a resins. Mae melyswyr fel neithdar agafe, mêl, surop corn uchel mewn ffrwctos a sudd ffrwythau.
Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch llaeth yn anaddas yn y diet oherwydd ei fod yn cynnwys lactos, er bod eithriadau fel caws caled.