Fernán Caballero | |
---|---|
Ffugenw | Fernán Caballero |
Ganwyd | Cecilia Francisca Josefa Böhl de Faber Ruiz de Larrea 24 Rhagfyr 1796 Morges |
Bu farw | 7 Ebrill 1877 Sevilla |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | llenor, arbenigwr mewn llên gwerin, nofelydd |
Adnabyddus am | Q77328763 |
Tad | Juan Nicolás Böhl de Faber |
Mam | Frasquita Larrea |
Priod | Francisco de Paula Ruiz del Arco |
Nofelydd ac awdur straeon byrion Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Fernán Caballero (Cecilia Böhl von Faber, neu Cecilia Böhl de Faber; 24 Rhagfyr 1796 – 7 Ebrill 1877) sy'n nodedig am ei phortreadau o fywyd gwledig ac iaith y werin yn Andalucía.
Ganed ym Morges, y Swistir, yn ferch i'r Almaenwr Johann Niklaus Böhl von Faber a'i wraig o Andalucía. Dyn busnes oedd von Faber a drodd yn Gatholig. Symudodd y teulu i Andalucía yn 1813 a daeth von Faber yn feirniad lenyddol amlwg.[1]
Yn 1816 priododd Cecilia â swyddog yn y troedfilwyr o'r enw Antonio Planells, a gafodd ei ladd mewn brwydr yn 1817. Priododd â'r marqués de Arco Hermoso yn 1822, a buont yn byw yn ei gartrefi yn Sevilla a chefn gwlad Andalucía nes ei farwolaeth yn 1835. Priododd Cecilia ei thrydydd gŵr, Antonio de Ayala, yn 1837. Lladdodd Antonio ei hunan yn 1859 o ganlyniad i'w fethiannau ariannol. Ni chafodd Cecilia yr un plentyn drwy gydol ei hoes.[1]
Cafodd lwyddiant gyda'i nofel gyntaf, La gaviota (1849), un o glasuron llên Sbaen yn y 19g. Fe'i ystyrir yn waith sy'n rhagflaenu'r nofel realaidd Sbaeneg, ac yn enghraifft gynnar o ffuglen costumbrismo. Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill mae'r nofel Clemencia (1852) a'r casgliad o straeon byrion Cuadros de costumbres populares andaluces (1852). Yn ogystal â'i phortreadau bywiog a naturiol o fywyd ac arferion cefn gwlad, mae ei ffuglen yn amddiffyn etifeddiaeth yr Eglwys Gatholig a'r frenhiniaeth yn Sbaen yn wyneb twf rhyddfrydiaeth. Bu farw yn Sevilla yn 80 oed, wedi afiechyd hir.[1]