![]() | |
Enghraifft o: | plaid wleidyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | Democratiaeth Gristnogol, pro-Europeanism, Irish republicanism ![]() |
Label brodorol | Fianna Fáil ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 Mai 1926 ![]() |
Sylfaenydd | Éamon de Valera ![]() |
Aelod o'r canlynol | Alliance of Liberals and Democrats for Europe Party, Union for Europe of the Nations ![]() |
Pencadlys | Dulyn ![]() |
Enw brodorol | Fianna Fáil ![]() |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Gwefan | https://www.fiannafail.ie/ ![]() |
![]() |
Fianna Fáil – An Páirtí Poblachtánach (Saesneg: Fianna Fáil – The Republican Party), y cyfeirir ati fel rheol fel Fianna Fáil ("Rhyfelwyr [Fianna] Iwerddon"), yw'r blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ac Iwerddon gyfan gyda tua 55,000 o aelodau.
Fe'i sefydlwyd ym 1926 fel plaid radicalaidd weriniaethol ganol-chwith, ond erbyn heddiw mae hi'n blaid ganolaidd. Mae wedi dominyddu bywyd gwleidyddol Iwerddon ers y 1930au. Hi yw'r blaid fwyaf yn Dáil Éireann er 1932, ac mae hi wedi ffurfio'r llywodraeth saith o weithiau ers creu'r weriniaeth ym 1921: 1932–48, 1951–54, 1957–73, 1977–81, 82, 1987–94, ac o 1997 hyd heddiw. Yn nhermau tymhorau pleidiau mewn llywodraeth yng ngwledydd Ewrop, mae Fianna Fáil yn ail i Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden yn unig. Micheál Martin yw ei harweinydd presennol.
Yn Senedd Ewrop, roedd Fianna Fáil yn aelod blaenllaw o'r grŵp Undeb dros Ewrop y Cenhedloedd, ond mae ei haelodaeth o'r grŵp gwleidyddol hwnnw wedi ennyn beirniadaeth o fewn ac y tu allan i'r blaid am fod gwerthoedd de-canol y grŵp hwnnw yn groes i werthoedd traddodiadol Fianna Fáil ei hun. Ymunodd Fianna Fáil â Chlymblaid y Rhyddfrydwyr a Democratiaid dros Ewrop yn 2009.