Fosco Maraini | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1912 Fflorens |
Bu farw | 8 Mehefin 2004 Fflorens |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, bardd, ffotograffydd, llenor, dringwr mynyddoedd, athro, gwyddonydd, dogfennwr |
Prif ddylanwad | Giuseppe Tucci |
Tad | Antonio Maraini |
Mam | Yoï Crosse |
Priod | Topazia Alliata |
Plant | Dacia Maraini, Yuki Maraini, Toni Maraini |
Gwobr/au | Urdd y Wawr |
Gwefan | http://www.foscomaraini.net |
Chwaraeon |
Ethnolegydd, ffotograffydd, anthropolegydd, awdur llyfrau taith, mynyddwr ac academydd o'r Eidal oedd Fosco Maraini (15 Tachwedd 1912, Fflorens – 8 Mehefin 2004, Fflorens). Arbenigai ar hanes a diwylliant Tibet a Siapan ac mae ei lyfrau, a addurnir â'i ffotograffau ei hun, wedi cael ei gyfieithu i sawl iaith.
Aeth i Japan yn 1938 a dysgodd ym mhrifysgolion Hokkaido (1938-1941) a Kyoto (1941-1943). Pan ymunodd Japan yn yr Ail Ryfel Byd cafodd ei gadw fel carcharor sifil yn Nagoya (1943-1946). Dychwelodd i Siapan yn 1953 am ddwy flynedd ac ysgrifennodd un o'i gyfrolau enwocaf Ore Giapponesi (1959).
Gyda'r Tibetolegydd Giuseppe Tucci, aeth ar ddwy daith i Dibet, yn 1937 ac eto yn 1948. Ystyrir ei lyfr ar Dibet, a gyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Secret Tibet, yn glasur o'i fath ac yn ffynhonnell bwysig am bobl a diwylliant Tibet cyn goresgyniad y wlad gan Tsieina yn y 1950au. Mae'n cofnodi taith dros fwlch y Nathu La o Sikkim i Lhasa gyda Giuseppe Tucci yn 1948.
Roedd ei yrfa fel academydd yn cynnwys cyfnod fel Cymrawd o Goleg Sant Andreas, Rhydychen (1959-1964) a darlithydd yn y Siapaneg a llenyddiaeth Siapaneg ym mhrifysgol Fflorens (1972-1983).