Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Frances Newstead |
Dyddiad geni | 5 Mai 1973 |
Taldra | 1.75 m |
Pwysau | 62 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac a Ffordd |
Rôl | Reidiwr a Hyfforddwr |
Tîm(au) Amatur | |
Prif gampau | |
Pencampwr Prydain | |
Golygwyd ddiwethaf ar 3 Hydref, 2007 |
Seiclwraig a hyfforddwraig trac a ffordd Seisnig ydy Frances Newstead (ganwyd 5 Mai 1973, Holmfirth, Gorllewin Swydd Efrog)[1]. Cynyrchiolodd Loegr yn Ras Bwyntiau, Treial Amser a Ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Bu'n cystadlu yng Nghwpan y Byd Ffordd fel rhan o dîm Prydain Fawr yn 2003 a 2004.
Astudiodd Wyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Huddersfield, a dechreuodd seiclo er mwyn cymudo i'r brifysgol. Ymunodd â chlwb beicio mynydd y brifysgol yn ddiweddarach. Erbyn hyn, mae hi'n gweithio i British Cycling ym Manceinion, yn helpu hyfforddi seiclwyr ifanc gorau Prydain a chanfod talent newydd i fod yn rhan o dîm Prydain.
Llywiodd Frances Melanie Easter ar y Tandem i drydydd safle ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain yn y categori anabal.