Frankie Boyle | |
---|---|
Ganwyd | Francis Martin Patrick Boyle 16 Awst 1972 Pollokshaws |
Man preswyl | Glasgow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, hunangofiannydd, newyddiadurwr, llenor, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, sgriptiwr |
Prif ddylanwad | Billy Connolly, Bill Hicks, Spike Milligan |
Gwefan | http://www.frankieboyle.com/ |
Digrifwr ac ysgrifennwr o'r Alban yw Francis Martin Patrick "Frankie" Boyle[1] (ganed 16 Awst 1972). Fe'i adnabyddir am ei synnwyr digrifwch pesimistaidd a dadleuol.[2] Roedd yn banelydd parhaol ar y gêm banel gomedi Mock the Week o ddechrau'r rhaglen yn 2005 i 2009.[3]
Ers gadael y rhaglen, mae Boyle wedi ymddangos fel panelydd gwadd ar nifer o raglenni comedi eraill, yn ogystal â serennu yn Frankie Boyle's Tramadol Nights yn 2010,[4] Frankie Boyle's Rehabilitation Programme yn 2011,[5] The Boyle Variety Performance yn 2012 a Frankie Boyle's Election Autopsy yn 2015.[6] Cyd-ysgrifennodd peilot y comedi sefyllfa radio Blocked yn 2014 gyda Steven Dick. Fe'i darlledwyd ar BBC Radio 4 ar 5 Mehefin, 2014.[7]
Ar 1 Hydref, 2009 rhyddhawyd My Shit Life So Far, hunangofiant Boyle.[8] Rhyddhawyd ei ail lyfr, Work! Consume! Die! ym mis Hydref 2011, a'i drydydd llyfr Scotland's Jesus: The Only Officially Non-racist Comedian ar 24 Hydref, 2013.[9]
Blwyddyn | Teitl |
---|---|
2007–2008 | Morons, I Can Heal You |
2010 | I Would Happily Punch Every One of You in the Face |
2012 | The Last Days of Sodom |
2015 | Hurt Like You've Never Been Loved |
Blwyddyn | Teitl | Nodiadau |
---|---|---|
2008 | Frankie Boyle Live | Yn fyw yn yr Hackney Empire, Llundain |
2010 | If I Could Reach Out Through Your TV and Strangle You, I Would | Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain |
2012 | The Last Days of Sodom | Yn fyw yn Theatr y Brenin, Glasgow |
2016 | Hurt Like You've Never Been Loved (ar Netflix yn unig) | Yn fyw yn Theatr y Citizens, Glasgow |