Franz Bopp | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1791 Mainz |
Bu farw | 23 Hydref 1867 Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Galwedigaeth | ieithydd, addysgwr, academydd, historical linguist |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Volney Prize, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Ieithegwr Almaenig oedd Franz Bopp (14 Medi 1791 - 23 Hydref 1867), a ystyrir yn un o sefydlwyr ieitheg gymharol.
Ganed Bopp ym Mainz yn 1791. Astudiodd ym Mharis am bedair blynedd dan nawdd llywodraeth Bafaria. Yn 1816 cyhoeddodd ei astudiaeth gyntaf o ramadeg yr Indo-Ewropeg, yr Über das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache, sy'n cymharu gramadeg y ferf yn y Sansgrit gyda berfau'r ieithoedd Groeg, Lladin, Perseg ac Almaeneg ac yn dangos fod ganddynt gwreiddiau cyffredin.[1]
Yn 1821 fe'i apwyntwyd i'r gadair yn y Sansgrit a gramadeg cymharol ym mhrifysgol Berlin. Dyma'r cyfnod a welodd gyhoeddi ei ramadeg cymharol o'r ieithoedd Sansgrit, Zend, Groeg, Lladin, Lithwaneg, Hen Slafoneg, Gotheg ac Almaeneg.[1]
Yn 1839 cyhoeddodd ei astudiaeth Über die keltischen Sprachen sy'n profi bod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Er nad ef oedd y cyntaf i awgrymu hynny, mae'r llyfr yn garreg filltir yn natblygiad Astudiaethau Celtaidd.[2]
Bu farw ym Merlin yn 1867.
Prif waith:
Traethodau ac astudiaethau eraill: