Gareth F. Williams | |
---|---|
Gareth F. Williams yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2015. Llun: Rhys Llwyd / Llenyddiaeth Cymru. | |
Ganwyd | 9 Chwefror 1955 Porthmadog |
Bu farw | 14 Medi 2016 o canser |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Awdur oedd Gareth Finlay Williams (9 Chwefror 1955 – 14 Medi 2016) oedd yn adnabyddus am ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion yn ogystal â chreu nifer fawr o gyfresi drama ar deledu. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Awst yn Anogia.
Ganwyd ym Mhorthmadog yn fab i Hugh Finley a Menna Williams[1] a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac yna ei hyfforddi fel athro yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam.
Gweithiodd am ddwy flynedd yn siop Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog rhwng 1973 a 1975. Bu'n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon rhwng 1979 ac 1985. Treuliodd gyfnod yn byw yn Y Tyllgodd lle bu briod an Nia Einir Jones yn 1989 ac yna symud I Llanddunwy cyn symud wedyn i Silstwn, Bro Morgannwg, cyn ysgaru yn 2008 ac ymgartrefu yn Beddau ger Pontypridd.[2]
Roedd yn gyfrifol am gyd-greu cyfresi drama ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd. Roedd yn awdur y cyfresi Pen Tennyn a Lan a Lawr.
Enillodd Wobr Tir na n-Og am ei lyfrau ar gyfer plant ar chwe achlysur. (Gweler y rhestr isod.)
Roedd yn un o'r tri oedd ar y panel ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst 2016. Roedd wedi bod yn brwydro canser a'r diwrnod wedi cyflwyno'r wobr yn Eisteddfod y Fenni daeth i wybod nad oedd gwella. Bu farw yn 61 oed yn ei gartref ym Meddau gan adael ei wraig Rachel.[1][3]
Yn 2018 rhoddwyd Gwobr Mary Vaughan Jones iddo am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth. Cyflwynwyd y tlws i'w deulu mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion ar 18 Hydref 2018.[4]