Math | geoparc |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.2667°N 4.3667°W |
GeoMôn, neu Geoparc Ynys Môn, yw'r Geoparc sy'n cynnwys y cyfan o Ynys Môn. Fe'i derbyniwyd fel aelod o Rwydwaith Geoparciau UNESCO ym mis Mai 2009. Ef yw'r ail Geoparc i'w ddynodi yng Nghymru; y cyntaf oedd Geoparc y Fforest Fawr.
Gweinyddir y Geoparc gan GeoMôn, cwmni cofrestredig gyda phedwar cyfarwyddwr, dau ddaearegwr a dau swyddog Cyngor Sir Ynys Môn. Seiliwyd dynodiad yr ynys fel Geoparc ar yr amrywiaeth ddaearegol eithriadol arni.