Guto Dafydd

Guto Dafydd
Ganwyd14 Mawrth 1990 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auCoron yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Goffa Daniel Owen Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bardd a llenor o Gymro yw Guto Dafydd (ganwyd 14 Mawrth 1990).

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd ym mhentref Trefor, Gwynedd. Mynychodd Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion-Dwyfor Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd.[1]

Rhwng Mai 2011 a Tachwedd 2014 roedd yn gweithio i Gyngor Gwynedd, dan ddechrau fel cymhorthydd ar wefan y cyngor, hyfforddai cyswllt cwsmer ac yna Uwch Swyddog Ymchwil a Dadansoddeg. Yn Nhachwedd 2014 cychwynnodd weithio i Comisiynydd yr Iaith Gymraeg fel Swyddog Cydymffurfio. Mae'n Uwch Swyddog Cydymffurfio ers Ebrill 2017.[2]

Cystadlu a gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach ers yn ŵr ifanc. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd i Barn, Barddas, Tu Chwith a chyhoeddiadau eraill.[1]

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013. Yn 2014, pan oedd yn 24 oed, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, ac felly yn un o'r beirdd ieuengaf erioed i ennill Coron y Brifwyl. Cyflawnodd y gamp eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019.[3]

Yn 2014 cyhoeddodd Jac, nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc (Y Lolfa, ISBN 9781847718976). Yr un flwyddyn, cyhoeddodd cyfrol o farddoniaeth Ni Bia'r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas, ISBN 9781906396787). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion yn 2015, sef Stad (Y Lolfa, ISBN 9781784611279).

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd sy'n dilyn gŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion. Seiliwyd y nofel ar driniaeth Guto ei hun pan gafodd gwrs o radiotherapi dros gyfnod o chwe wythnos yn hydref 2015 ar gyfer ffibromatosis ar wal y frest. Enillodd y nofel wobr Barn y Bobl Golwg360 yn nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2017. Yn 2019 enillodd wobr Daniel Owen am yr eildro gyda'i nofel Carafanio.[4]

Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.[5]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’u plant, Casi a Nedw. Mae'n frawd i'r bardd Elis Dafydd.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1  Guto Dafydd yn ennill Coron Eisteddfod 2014. Eisteddfod Genedlaethol (4 Awst 2014).
  2.  LinkedIn - Guto Dafydd. LinkedIn. Adalwyd ar 5 Awst 2019.
  3. Eryl Crump (6 Awst 2019). "Time was too short for a walk so National Eisteddfod Crown winner Guto Dafydd wrote poetry instead". Daily Post. (Saesneg)
  4. Gwobr Goffa Daniel Owen i Guto Dafydd , BBC Cymru Fyw, 6 Awst 2019.
  5. Guto Dafydd yn cipio’r Goron , Golwg360, 5 Awst 2019.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]