Hemaris tityus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Sphingidae |
Genws: | Hemaris |
Rhywogaeth: | H. tityus |
Enw deuenwol | |
Hemaris tityus (Linnaeus, 1758)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod gwenynaidd ymyl gul; yr enw Saesneg yw Narrow-bordered Bee Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Hemaris tityus.[2][3] Mae'n un o ddau wyfyn o deulu'r Sphingidae sy'n dynwared y wenynen o ran lliw ei chorff. Mae ei diriogaeth yn eitha eang: o Iwerddon ar hyd Ewrop i Fynyddoedd yr Wral, Gorllewin Siberia ac hyd at Altai. Caiff ei weld hefyd o Tian Shan i'r dwyrain hyd at Mongolia ac i ogledd-ddwyrain Tsieina ac i'r de hyd at Tibet. Mae clwstwr annibynnol ohonynt hefyd hefyd ar gael rhwng Twrci ac Iran.
Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Mai a Mehefin yng ngwledydd Prydain a hynny liw dydd, sy'n ei wneud yn wahanol i weddill teulu'r sphingidau. Fel arfer fe'i welir o ganol y bore hyd at ddechrau'r cyfnos.[4]
Mae'n hoff iawn o wlyptir coediog, gyda'r siani flewog yn gwledda ar Succisa pratensis a Knautia arvensis. 40 – 50 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.