![]() | |
Math | ynys, nythfa adar, gwarchodfa natur, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.089 km², 11.97 ha ![]() |
Uwch y môr | 42 metr ![]() |
Gerllaw | Sianel San Siôr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.730902°N 5.479714°W ![]() |
Hyd | 0.5 cilometr ![]() |
Rheolir gan | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Ynys fechan anghyfanedd i'r gorllewin o Ynys Sgomer oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Gwales (hefyd Ynys Gwales; Saesneg: Grassholm o'r geiriau Hen Norseg grass "gwair" a holm "ynys isel"). Mae Gwales a Sgomer yn ddwy ynys archeolegol gyfoethog wedi'u lleoli oddi ar arfordir gorllewinol penrhyn Marloes yn ne Sir Benfro. Gwales yw'r tir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.
Ceir ar yr ynys olion strwythurau cerrig di-ri, rhwydwaith o olion ffiniau caeau cerrig sy'n rhyng-gysylltu, olion aredig a nodweddion archeolegol eraill. Mae'n amlwg o'r olion hyn fod pobl wedi ffermio yma dros y cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol: Oes Efydd, Haearn, Celtaidd a Chanoloesol.[1]
Mae'n adnabyddus i ornitholegwyr am ei choloni anferth o fulfrain gwynion (huganau); 32,409 o barau yn 2004, sef tua 8% o boblogaeth y byd. Ers 1947 mae'n eiddo i'r RSPB, y warchodfa gyntaf i'r gymdeithas honno brynu. Dyma'r trydydd nifer mwyaf yn Ewrop a'r 4ydd drwy'r byd.
Mae Gwales wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Yn llenyddiaeth Gymraeg mae Gwales yn fwy adnabyddus fel yr ynys arallfydol y mae'r saith arwr a ddihangasant o Iwerddon yn treulio 80 mlynedd arni yng nghwmni pen Bendigeidfran, yn ôl chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc Pedair Cainc y Mabinogi:
Mae llongau pleser yn hwylio i Wales o Martin's Haven yn yr haf.