Gwilym R. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1903 Tal-y-sarn |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1993 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993). Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.
Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.