Gwlff Paria

Gwlff Paria
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr y Caribî Edit this on Wikidata
GwladTrinidad a Thobago, Feneswela Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10.38°N 62.35°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Gwlff Paria (Golfo de Paria yn Sbaeneg) yn fôr mewndirol bychan, 7800 km2 (3000 milltir sgwâr) rhwng ynys Trinidad (Gweriniaeth Trinidad a Thobago) ac arfordir dwyreiniol Feneswela. Ystyrir y dyfroedd cysgodol hyn yn un o harbwrs naturiol gorau arfordir yr Iwerydd de a gogledd America. Yn wreiddiol, cafodd ei enwi'n Golfo de la Ballena (Gwlff y Morfil) gan Christopher Columbus, ond yn ystod y 19g, achosodd y diwydiant morfila i forfilod ddiflannu o'r ardal.

Cysylltir Gwlff Paria i'r Môr Caribî yn y gogledd gan y Bocas del Dragón (neu Geg y Ddraig) rhwng Penrhyn Paria yn Feneswela a Phenrhyn Chaguaramas, ac i Sianel Columbus yn y de i Boca del Serpiente (Ceg y Sarff) rhwng Penrhyn Cedros a'r Aber Orinoco.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]