↔Mae'r rhan fwyaf o ferfau ac enwau yn yr ieithoedd Semitaidd yn deillio o wreiddyn tair cytsain dansoddol. Ni ellir yngan y gwreiddyn cytseiniol hwn ond fe ffurfir ffurfdroadau a geiriau perthynol drwy ychwanegu llafariaid rhwng y cytseiniaid mewn gwahanol gyfuniadau. Mae gan y rhan fwyaf o wreiddiau dair cytsain, ond ceir rhai â dwy neu bedair.
Dyma enghraifft o rai o'r ffurfiau sy'n deillio o'r gwreiddyn tair cytsain k-t-b sydd yn golygu "ysgrifennu" neu "ysgrifen" yn gyffredinol.
Talfyriad Semitologaidd | Enw Hebraeg | Enw Arabeg | Categori morffolegol | Ffurf Hebraeg | Ffurf Arabeg | Cyfieithiad bras |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwreiddyn berfol G | Pa‘al (neu Qal) | fa‘ala فَعَلَ (Grweiddiad I) |
perffaith 3ydd p. unigol gwr. | katabh כתב | kataba كتب | "ysgrifennodd" |
perffaith p. 1af lluosog | katabhnu כתבנו | katabnā كتبنا | "ysgrifenasom" | |||
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. | yikhtobh יכתוב | yaktubu يكتب | "ysgrifenna" | |||
amherffaith p. 1af lluosog | nikhtobh נכתוב | naktubu نكتب | "ysgrifennwn" | |||
rhangymeriad gweithredol unigol gwr. | kotebh כותב | kātib كاتب | "ysgrifennwr" | |||
Gwreiddyn berfol Š | Hiph‘il | af‘ala أَفْعَلَ (Gwreiddiad IV) |
perffaith 3ydd p. unigol gwr. | hikhtibh הכתיב | ’aktaba أكتب | "arddywedodd" |
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. | yakhtibh יכתיב | yuktibu يكتب | "arddywed" | |||
Gwreiddyn berfol Št(D) | Hitpa‘el | istaf‘ala اسْتَفْعَلَ (Gwreiddyn X) |
perffaith 3ydd p. unigol gwr. | hitkattebh התכתב | istaktaba استكتب | "gohebodd" (Hebraeg), "gofynnodd (i rywun) ysgrifennu (rhywbeth), cafodd gopi wedi'i wneud" (Arabeg) |
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. | yitkattebh יתכתב | yastaktibu يستكتب | "gohebai" (Hebraeg), "gofynnai (i rywun) ysgrifennu (rhywbeth), câi gopi wedi'i wneud" (Arabeg) | |||
Enwau â rhagddodiad m- a llafariaid byrion: | maf‘al مَفْعَل |
unigol | mikhtabh מכתב | maktab مكتب | "llythyr" (Hebraeg), "swyddfa" (Arabeg) |
Noder er bod y rhan fwyaf o'r gwreiddiau yn Hebraeg yn dair-cytesiniol, roedd nifer ohonynt yn ddwy-gytseiniol yn wreiddiol, e.e. y berthynas rhwng גזז √ g-z-z ‘cneifio’, גזמ √ g-z-m ‘ysgythru’ a גזר √ g-z-r ‘torri’ [1]. Mae Ghil'ad Zuckermann yn dadansoddi bod y gwreiddyn Hebraeg שקפ √ sh-q-p "edrych drwy" yn deillio o קפ √ q-p "plygu tuag at" wedi'u rhoi i mewn i'r patrwm berfol shaé. Ymddenys y patrwm hwn yn nifer o ferfau, e.e. שטפ √ sh-ţ-p ‘golchi, gwlychu’, a ddaw o טפ √ ţ-p ‘gwlyb’, yn ogystal â שלכ √ sh-l-k ‘achosi i fyd a ddaw o’ לכ √ l-k ‘mynd’.[2]