Earias insulana | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Earias |
Rhywogaeth: | E. insulana |
Enw deuenwol | |
Earias insulana (Boisduval, 1833) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn bychan sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyrdd yr Aifft, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyrddion yr Aifft; yr enw Saesneg yw Egyptian Bollworm, a'r enw gwyddonol yw Earias insulana.[1][2] Mae i'w ganfod yn: y rhan fwyaf o Africa, de Europe, y Dwyrain agos a'r Dwyrain Canol, Japan, Taiwan, the Pilipinas, Awstralia a Hawaii. Mae hefyd yn ymwelydd prin â gwledydd Prydain.
Dim ond 20–22 mm ydy lled ei adenydd. Ceir dwy genhedlaeth gyda'r cyntaf o liw gwyrdd llachar a'r ail yn felyngoch.
Ymhlith y bwydydd mae'n ei fwyta y mae: ocra, cotwm a hibiscus, ond gwelir ef ar adegau hefyd ar blanhigion reis siwgwr ac India corn. Ar y dechrau mae'r siani flewog yn gwledda ar egin y planhigyn ac yna'n troi at y dail. Mae'r siani flewog yn 13–18 mm.[3].
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyrdd yr Aifft yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.