Enghraifft o'r canlynol | uned filwrol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Gorffennaf 2022 |
Pencadlys | Nablus |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp milwriaethus Palesteinaidd yw Gwâl y Llewod sy'n gweithredu yn erbyn meddiannaeth y Lan Orllewinol gan luoedd Israel, ac yn erbyn setlwyr Israelaidd yn y diriogaeth.
Ffurfiodd y grŵp yn 2022 yn Nablus, yng ngogledd y Lan Orllewinol, a chyhoeddwyd ei siarter a rhaglen ar 2 Medi 2022.[1] Cymerai'r enw o lysenw un o'i aelodau, Ibrahim al-Nabulsi, "Llew Nablus", a saethwyd yn farw gan Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn Awst 2022.[2] Dynion ifanc ydy aelodau'r garfan yn bennaf, a nifer ohonynt yn gysylltiedig â'r pedair prif blaid wleidyddol Balesteinaidd—Fatah, Hamas, Mudiad y Jihad Islamaidd, a'r Ffrynt Poblogaidd dros Ryddid Palesteina. Maent yn honni ffrynt unedig yn erbyn lluoedd Israel, ac yn rhoi anghydfodau pleidgar o'r neilltu. Mae nifer o'r aelodau wedi bwrw dedfrydau am berchen ar arfau mewn carchardai'r Awdurdod Palesteinaidd.[1] Mae fideos o ymosodiadau'r grŵp yn ymddangos yn fynych ar y cyfryngau cymdeithasol megis TikTok, gan felly denu cefnogaeth ar-lein, yn enwedig ymhlith yr ieuenctid Palesteinaidd.[3] Er yn llu annibynnol, heb deyrngarwch i unrhyw fudiad neu blaid arall, mae'n debyg ei fod yn derbyn arian oddi ar Hamas.[4]
Ymddangosodd Gwâl y Llewod yn ystod blwyddyn o ymladd cynyddol rhwng Israel a'r Palesteinaidd, yn ninasoedd Nablus a Jenin yn enwedig, a dygodd y grŵp gyrchoedd ar siecbwyntiau a milwyr yr IDF ac ar wladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol. Lansiodd yr IDF Ymgyrch Torri'r Don i geisio chwalu'r lluoedd milwriaethus, gan gynnwys cyrchoedd dyddiol a laddodd degau o Balesteiniaid, ond llwyddodd Gwâl y Llewod i oroesi a pharhau â'i ymosodiadau herwfilwrol.[1] Er i'r grŵp ddatgan ei fod yn gweithredu'n erbyn Israel yn unig, mae lluoedd yr Awdurdod Palesteinaidd hefyd yn eu targedu, ac ym Medi 2022 arestiwyd un o'r aelodau blaenllaw yn Nablus, gan ysgogi ymladd rhwng Gwâl y Llewod a'r Awdurdod.[5]
Yn Hydref 2023, wedi i'r IDF lladd nifer mewn cyrchoedd ar Nablus, rhoddwyd pwysau ar brif aelodau'r grŵp i ildio. Mae'r Awdurdod yn cynnig swyddi yn y lluoedd diogelwch i aelodau sy'n cytuno i ddiarfogi a gadael y grŵp.[4] Er i ryw 20 o aelodau ildio i'r Awdurdod,[4] aildaniwyd ymgyrchoedd Gwâl y Llewod ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac ymunasant â'r brwydro yn sgil dechrau Rhyfel Gaza yn Hydref 2023.