Math | stryd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thomas Harley |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Devonshire Street, Marylebone Road, Weymouth Street, New Cavendish Street, Sgwâr Cavendish, Wigmore Street, Queen Anne Street |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5206°N 0.1477°W |
Mae Harley Street yn stryd yn Ninas Westminster yng nghanol Llundain. Mae'n enwog am ei nifer uchel o ddeintyddion, llawfeddygon a doctoriaid preifat sy'n gweithio yno. Mae enw'r stryd yn cael ei gysylltu â gofal meddygol preifat yn y DU. Ers y 19g, mae'r nifer o ddoctoriaid, ysbytai a sefydliadau meddygol yn ac o amgylch Harley Street wedi cynyddu'n sylweddol. Dengys ystadegau fod tua 20 doctor yno ym 1860, 80 erbyn 1900 a bron i 200 ym 1914. Pan sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948, roedd tua 1,500 yno. Erbyn heddiw, cyflogir dros 3,000 o bobl yn ardal Harley Street, mewn clinigau, sefydliadau meddygol ac ysbytai.
Mae Harley Street yn eiddo o'r teulu Walden a chaiff ei rheoli gan Walden Estate.