Harry Dexter White | |
---|---|
Harry Dexter White (chwith) gyda John Maynard Keynes yn ystod cyfarfod cyntaf yr IMF (8 Mawrth 1946). | |
Ganwyd | 29 Hydref 1892 Boston |
Bu farw | 16 Awst 1948 Fitzwilliam |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd |
Cyflogwr | |
Priod | Anne Terry White |
Economegydd Americanaidd oedd Harry Dexter White (29 Hydref 1892 – 16 Awst 1948) a weithiodd yn Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau.
Ganed yn Boston, Massachusetts, i Iddewon a ymfudodd i Unol Daleithiau America o Lithwania. Gwasanaethodd ym Myddin yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ym 1930, ac addysgodd yng Ngholeg Lawrence yn Appleton, Wisconsin, o 1932 i 1934.
Symudodd White i Washington, D.C. ym 1934 i weithio yn arbenigwr ariannol yn Adran y Trysorlys. Fe'i penodwyd yn brif ddadansoddwr economaidd gan Gomisiwn Tariff yr Unol Daleithiau am gyfnod. Dychwelodd i'r Trysorlys i wasanaethu yn brif ddadansoddwr economaidd yn yr adran ymchwil ac ystadegau, a fe'i dyrchafwyd yn is-gyfarwyddwr ymchwil ym 1936, yn gyfarwyddwr ymchwil ariannol ym 1938, ac yn is-ysgrifennydd dros ymchwil ariannol a rheoli cronfeydd tramor ym 1945.
Wedi'r Ail Ryfel Byd, cafodd White ran flaenllaw wrth sefydlu'r drefn ariannol fyd-eang newydd. Yng Nghynhadledd Bretton Woods (1944), bu dadl rhwng cynigion White i reoli masnach ryngwladol ar sail y safon aur, a'r cynllun amgen a arddelwyd gan John Maynard Keynes. Enillwyd y ddadl gan gynllun White, a phenodwyd White yn gyfarwyddwr gweithredol y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). White hefyd oedd prif awdur Cynllun Morgenthau, a wrthodwyd gan yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt ym 1944.
Cyhuddwyd White ym 1948 o ddarparu cudd-wybodaeth i ysbiwyr yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel, ac o gynorthwyo gweithwyr â thaliadau comiwnyddol yn Adran y Trysorlys. Cafwyd ymchwiliad gan Gyngres yr Unol Daleithiau, a bu farw White cyn diwedd yr ymchwiliad. Er nad oedd White erioed yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, ceir tystiolaeth yr oedd yn hysbyswr i'r Sofietiaid mewn dogfennau o'r FBI ar sail negeseuon wedi eu datgodio gan Brosiect Venona.