Heboglys Eryri | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Hieracium |
Rhywogaeth: | H. snowdoniense |
Enw deuenwol | |
Hieracium snowdoniense P. D. Sell & C. West, 1955[1][2] |
Rhywogaeth brin iawn o genws yr heboglysiau yw heboglys Eryri (Hieracium snowdoniense) sydd yn frodorol i ardal Eryri yng ngogledd Cymru. Hwn yw un o'r planhigion prinnaf yn y byd.
Mae ganddo siâp rhoséd o ddail meinion, danheddog, sydd yn culhau wrth eu bonau gan ffurfio coesyn blewog. Ar ben y coesyn, mae swp o fflurbennau melyn, yn debyg i ddant y llew. Planhigyn lluosflwydd ydyw sydd yn tyfu i 30 cm.[3]
Cafodd ei gydnabod yn heboglys unigryw gan J. E. Griffith, Caernarfon, yn y 1880au, a chafwyd cofnod hanesyddol ohono mewn saith safle. Cododd Griffith sbesimen o heboglys Eryri ym 1892 o'r Ysgolion Duon, a chedwir y planhigyn sychedig hwnnw yn Herbariwm yr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd.[4] Gostyngodd niferoedd heboglys Eryri yng nghanol yr 20g, wrth i ddefaid grwydro'r mynyddoedd heb fugeiliaid i'w rheoli. Cofnodwyd yr esiampl olaf honedig ohono hon ym 1953,[5] ychydig cyn iddo gael ei gydnabod yn rhywogaeth ar wahân gan Peter Sell a Cyril West, arbenigwyr yng ngenws yr heboglysiau, ym 1955.[6] Credid am hanner can mlynedd iddo ddarfod o'r tir o ganlyniad i orbori gan ddefaid. Cafodd ei ail-ddarganfod yng Nghwm Idwal yn 2002, ar glogwyn serth yn wynebu'r gogledd. Casglwyd hadau ohono, ac mae 26 o blanhigion ifanc bellach yn cael eu trin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.[7] Erbyn 2021, cyfrifwyd chwech ohonynt yn y gwyllt.[5]
Ymhlith yr heboglysiau eraill sydd yn unigryw i Gymru mae heboglys Radur, yr heboglys porffor, heboglys Craig Cerrig-gleisiad, heboglys Llangatwg, heboglys y Mynydd Du, heboglys Riddelsdell, heboglys y tafod, heboglys Craig y Cilau, heboglys y copa, a'r heboglys Cymreig.