Helena Swanwick | |
---|---|
Ganwyd | 1864 München |
Bu farw | 16 Tachwedd 1939 Maidenhead |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, golygydd, ffeminist |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Oswald Sickert |
Priod | Frederick Tertius Swanwick |
Gwobr/au | Cydymaith Anrhydeddus |
Ffeminist o Loegr a'r Almaen oedd Helena Swanwick (1864 - 16 Tachwedd 1939) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, swffragét, ymgyrchydd dros heddwch ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Fe'i ganed yn München yn 1864 a bu farw yn Maidenhead. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Ysgol Uwchradd Notting Hill ac Ealing a Choleg Girton.
Helena Sickert oedd unig ferch yr arlunydd Oswald Sickert (yn dechnegol o genedligrwydd Daneg) a'r Sesnes Eleanor Louisa Henry, merch anghyfreithlon y seryddwr Richard Sheepshanks, Cymrawd Coleg y Drindod, Caergrawnt a dawnsiwr Gwyddelig. Brawd Helena oedd yr arlunydd enwog Walter Sickert. Fel merch ysgol, darllenodd The Subjection of Women gan John Stuart Mill a ddylanwad arni i ddod yn ffeminist. Cafodd ei haddysgu yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, ac yna fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn seicoleg yng Ngholeg Westfield yn 1885. Priododd â darlithydd Prifysgol Manceinion, Frederick Swanwick ym 1888.[1][2][3][4][5]
Helena Swanwick worked as a journalist, initially as a sort of protegée of C.P. Scott, and wrote articles for the Manchester Guardian. In 1906 she joined the National Union of Women's Suffrage Societies in preference to the Women's Social and Political Union, because of her belief in non-violence. She quickly became prominent in the National Union, and was editor of its weekly journal, The Common Cause from 1909–1912. She remained on the NUWSS Executive until 1915. She was also a member of the Labour Party.
Gweithiodd Helena Swanwick fel newyddiadurwr, i ddechrau fel rhyw fath o protegée o C.P. Scott, ac ysgrifennodd erthyglau ar gyfer y Manchester Guardian. Yn 1906 ymunodd ag Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidlais Menywod yn hytrach nag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod, oherwydd ei chred mewn defnyddio dulliau di-drais. Daeth yn amlwg yn gyflym yn yr Undeb Cenedlaethol, a bu'n olygydd ei gylchgrawn wythnosol, The Common Cause rhwng 1909–1912. Arhosodd brif bwyllgor yr NUWSS tan 1915. Roedd hefyd yn aelod o'r Blaid Lafur.
Bu'n aelod o Gynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid, Undeb Rheolaeth Ddemocrataidd am rai blynyddoedd. [6][7]