Henry Allingham

Henry Allingham
Ganwyd6 Mehefin 1896 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
o heneidd-dra Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ford Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyfel Prydain, Medal Buddugoliaeth, Medal Victoria Edit this on Wikidata

Peiriannydd o Sais a wasanaethodd yn Llynges Lloegr a'r Awyrlu Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y Peiriannydd Awyr[1] Henry William Allingham (6 Mehefin 189618 Gorffennaf 2009). Ef oedd goroeswr olaf Brwydr Jutland ac yn un o'r goroeswyr olaf a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mawrth 2009 daeth yn y dyn hynaf erioed o'r Deyrnas Unedig, gan fyw'n hirach na'r Cymro John Evans,[2] ac roedd yn ddyn byw hynaf y byd o 19 Mehefin 2009 hyd ei farwolaeth mis yn hwyrach.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Clapton, Hackney, Llundain. Priododd Dorothy Cater (1895–1970) ym 1918 a chafodd ddwy ferch. Bu farw yn Ovingdean, Dwyrain Sussex.[4]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Henry Allingham a Denis Goodwin. Kitchener's Last Volunteer. Mainstream Publishing, 2008.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Obituary: Air Mechanic Henry Allingham. The Daily Telegraph (19 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.
  2. (Saesneg) Veteran is UK's oldest ever man. BBC (29 Mawrth 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.
  3. (Saesneg) First World War veteran Henry Allingham, 113, is world's oldest man. The Daily Telegraph (19 Mehefin 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.
  4. Dan van der Vat (19 Gorffennaf 2009). "Henry Allingham". The Guardian. Cyrchwyd 7 Mehefin 2024.