Henry Hicks | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1837 Tyddewi |
Bu farw | 18 Tachwedd 1899 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llawfeddyg, meddyg, paleontolegydd, ostracodolegydd, daearegwr |
Swydd | Llywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Bigsby, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain |
Meddyg, daearegwr ac aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon oedd Henry Hicks, MRCS, FRS (26 Mai 1837 – 18 Tachwedd 1899); roedd hefyd yn Llywydd y Gymdeithas Ddaearegol ac yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol. Maes ei astudiaeth oedd creigiau Cyn-Gambriaidd Ynys Môn, Sir Gaernarfon a Phenfro a chreigiau Defonaidd Dyfnaint a Gwlad yr Haf, gwaddodion ogofâu a gwaddodion Cwaternaidd eraill.
Fe'i ganed yn Nhyddewi, Sir Benfro ar 26 Mai 1837, a dilynodd ôl traed ei dad am rai blynyddoedd, fel meddyg, gan astudio meddygaeth yn Ysbytu Guy's yn Llundain. Fe'i derbyniwyd i'r Royal College of Surgeons of England (MRCS) yn 1862.[1] Dychwelodd adref i weithio fel meddyg yn Nhyddewi tan 1871 pan symudodd i Hendon, Llundain gan arbenigo mewn 'clefydau'r meddwl' gan raddio yn St Andrews yn 1878.
Ffurfiwyd ei ddiddordeb am greigiau ac amser ym mro ei fagwraeth: Cymru, yn enwedig wedi iddo gyfarfod y Paleontolegydd John William Salter, a weithiai i'r Geological Survey ac a wnaeth lawer o waith ar greigiau a ffosiliau yn Ne Cymru.
Yn 1865, gyda Salter, sefydlodd y grŵp Menefaidd (the Menevian group) o'r Cyfnod Cambriaidd Canol, a nodweddir gan y trilobit Paradoxides. Sgwennodd nifer o bapurau ar greigiau Cambriaidd a Silwraidd, lle disgrifiodd sawl rhywogaeth newydd o ffosiliau. Yna, astudiodd greigiau Cyn-Gambriaidd ardal Tyddewi a disgrifiodd eu creigiau: Dimetiaidd (gwenithfaen) a Phebidiaidd (folcanig). Yna trodd ei drem tuag at greigiau Pleistosen Sir Ddinbych, gan ddatblygu'n arbenigwr mewn creigiau Defonaidd; ef oedd y cyntaf i adnabod nifer o ffosiliau yn y Defnaidd Isaf a'r Morte Silwraidd o Mortehoe yn Nyfnaint.[1]