Urdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Gwobr Roswitha, Gwobr Droste, Q1596394
Ganed Hildegard Löwenstein (a newidiodd ei henw'n ddiweddarach i Hilde Palm) yn Cwlen, yr Almaen a bu farw yn Heidelberg, eto yn yr Almaen, ac fe'i claddwyd gerllaw yn Bergfriedhof. Roedd yn ferch i Eugen Löwenstein, cyfreithiwr ac Iddew Almaenig.
Rhwng 1929 a 1932 astudiodd ym Mhrifysgol Heidelberg, Prifysgol Cologne, Prifysgol Bonn, a Phrifysgol Humboldt yn Berlin. Astudiodd y gyfraith i ddechrau, ac yn ddiweddarach newidiodd ei harbenigedd i economeg, y gwyddorau cymdeithasol ac athroniaeth. Ymhlith ei hathrawon roedd Karl Jaspers a Karl Mannheim.
O ganlyniad i'r gwrth-semitiaeth gynyddol egnïol yn yr Almaen Natsïaidd, ymfudodd i'r Eidal yn 1932 gyda'i ffrind (a'i gŵr yn y ddiweddarach) Erwin Walter Palm a oedd yn awdur ac yn fyfyriwr archaeoleg. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn gwyddoniaeth wleidyddol yn Fflorens yn 1935 a gweithiodd fel athrawes iaith yn Rhufain o 1935 i 1939. Priododd ac Erwin Walter Palm yn 1936. Gydag ymweliad Hitler â Rhufain ac awyrgylch chwerw yr Eidal ffasiynol dan Mussolini ysgogwyd y pâr ifanc i ymfudo unwaith eto.
Yn 1939 aethant i Loegr lle bu'n gweithio fel athrawes iaith yng Ngholeg St Aldyn. Doedd ofnau Hilde am y bygythiad Natsïaidd ddim wedi gwanhau, a cheisiodd y cwpwl gael fisa i unrhyw genedl yn America. Ni roddodd unrhyw un o'u gwledydd dewisol (yr Unol Daleithiau, Mecsico, yr Ariannin a Brasil) fisa iddynt, tra bod rhai yn codi tâl afresymol, nad oedd ganddynt. Yr unig wlad i'w croesawu yn ddiamod oedd Gweriniaeth Dominica, lle ymfudodd y ddau yn 1940.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen.
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia (1988), Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg (1990), Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia (1999), Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (1983), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1968), Gwobr Nelly Sachs (1983), Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth (1999), Medal Carl Zuckmayer (1992), Gwobr Friedrich-Hölderlin (1992), Gwobr Roswitha (1974), Gwobr Droste (1971), Q1596394[9] .