Humphrey Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | 1539 Dyfnaint |
Bu farw | 9 Medi 1583 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 1571, Aelod o Senedd 1572-83 |
Tad | Otho Gilbert |
Mam | Katherine Champernowne |
llofnod | |
Fforiwr, milwr a morwr o Sais oedd Syr Humphrey Gilbert (tua 1539 – 9 Medi 1583) sy'n enwog am ei ran yn y chwilfa am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Er iddo lwyddo i gipio Newfoundland am Deyrnas Lloegr, methiant llwyr oedd ei ymdrechion i sefydlu'r wladfa Seisnig barhaol gyntaf yng Ngogledd America.
Ganwyd yn Greenway, Dyfnaint, i deulu cefnog.[1] Roedd yn hanner brawd, o'r un fam, i Syr Walter Raleigh ac yn gefnder i Syr Richard Grenville. Astudiodd fordwyo a gwyddor filwrol ym Mhrifysgol Rhydychen cyn iddo ymuno â gosgordd y Dywysoges Elisabeth, yr hon a ddaeth yn Frenhines Lloegr yn 1558. Aeth yn filwr gyda byddin yr Iarll Warwick i gynorthwyo'r Hiwgenotiaid yn Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc. Tra'r oedd Gilbert mewn garsiwn yn Le Havre (1562–1563), fe'i anafwyd yn ystod y gwarchae.
Ysgrifennodd draethawd yn 1566 i ddadlau dros fordeithiau i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Gwrthodwyd y cynnig gan y Frenhines Elisabeth, ac anfonodd hi Gilbert i Iwerddon i ostegu gwrthryfel yn y cyfnod 1567–70. Cynlluniodd Gilbert i wladychu talaith Munster a'i throi'n Brotestannaidd. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1570.
Yn 1572, arweiniodd Gilbert 1,500 o filwyr Seisnig yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen.
Yn 1577, cyflwynodd gynllun i'r Frenhines i gipio llongau pysgota Sbaen, Portiwgal, a Ffrainc yn nyfroedd Newfoundland yn ogystal â meddiannu'r trefedigaethau Sbaenaidd Santo Domingo a Chiwba yn y Caribî a rhagodi llongau trysor ar eu ffordd yn ôl i Sbaen. Gwrthodwyd ei gynnig unwaith eto, er i'r Frenhines roddi siarter iddo yn 1578 i wladychu tiroedd yn y Byd Newydd nad oedd wedi eu hawlio'n barod gan wledydd Ewropeaidd eraill. Aeth Gilbert ar fordaith i Ogledd America, ond methiant a fu oherwydd ei arweinyddiaeth wael, ac erbyn tymor y gwanwyn 1579 roedd yr holl longau wedi dychwelyd i Loegr neu droi at fôr-ladrad.
Yn 1579, llwyddodd Gilbert i atal gwrthryfel arall yn Iwerddon. Aeth ar fordaith arall i Ogledd America yn 1583, gan gipio Newfoundland yn enw'r Frenhines. Ar ei ffordd yn ôl i Loegr, chwalwyd ei long mewn storm yng Nghefnfor yr Iwerydd, ger yr Azores.[2]