Huw Ceredig | |
---|---|
Ganwyd | Huw Ceredig Jones 22 Mehefin 1942 Brynaman |
Bu farw | 16 Awst 2011 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Tad | Gerallt Jones |
Mam | Elizabeth Griffiths |
Actor a chenedlaetholwr o Gymro oedd Huw Ceredig, ganwyd Huw Ceredig Jones (22 Mehefin 1942 – 16 Awst 2011)[1][2] a chaiff ei adnabod yn bennaf am ddarlunio cymeriadau mewn rhaglenni teledu Cymraeg ac ambell ffilm.
Ganwyd ym Mrynaman ym 1942, yn fab i'r Parchedig Gerallt Jones, ac Elizabeth Jane Griffiths,[3][4] athrawes Cymraeg. Roedd yn un o deulu Bois y Cilie,[5] ac roedd yn frawd i'r ddau wleidydd Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones, ac Arthur Morus.[6][7] Magwyd Ceredig yn Llanuwchllyn ac addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri, un o'i athrawon yno oedd y chwaraewr a'r hyfforddwr rygbi Carwyn James. Aeth ymlaen i hyfforddi fel athro yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Cymerodd ail-forgais ar ei dŷ er mwyn prynu offerynnau ar gyfer y band newydd Cymreig Edward H. Dafis a chyflwynodd hwy i'r llwyfan am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973.[5]
Chwaraeodd gymeriad Reg Harris ar opera sebon S4C Pobol y Cwm am 29 mlynedd o 1974 hyd 2003. Chwaraeodd hefyd ran tad Rhys Ifans a Llŷr Ifans fel "Fatty Lewis" yn y ffilm gomedi dywyll Gymreig Twin Town. Bu hefyd yn actor llais gan gyfrannu at gartwnau SuperTed, ac yn ddiweddarach Meees.[1]
Roedd yn byw yn Nhrelales, ac yn briod â Margaret a roedd ganddynt ddwy ferch. Bu farw Huw Ceredig ar 16 Awst 2011 wedi salwch hir dymor. Roedd Ioan Gruffudd, a chwaraeodd ran ei fab ar Pobol y Cwm am ddeng mlynedd, yn un o'r rhai a roddodd deyrnged iddo.[8] Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr ar 22 Awst 2011.[9]