Hywel Francis | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1946 Castell-nedd |
Bu farw | 14 Chwefror 2021 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, hanesydd |
Swydd | Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gwefan | https://web.archive.org/web/20150401004454/http://www.hywelfrancis.co.uk |
Hanesydd a gwleidydd oedd Dr Hywel Francis (6 Mehefin 1951 – 14 Chwefror 2021)[1] a oedd yn Aelod Seneddol Lafur dros Aberafan rhwng 2001 a 2015. Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd. Roedd yn fab i arweinydd undeb y glowyr Dai Francis [2] (Dai o'r Onllwyn 1911–1981) a Catherine (née Powell). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Eglwys Newydd, Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Abertawe.
Rhwng 2010 a 2015 fe oedd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol a bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, gan feithrin cysylltiadau agos gyda'r Cynulliad.
Bu hefyd yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar archifau a Syndrom Down. Ef hefyd a sefydlodd Sefydliad Bevan.[1]
Fel hanesydd, cyhoeddodd yn helaeth ar gymunedau glofaol De Cymru, gan gynnwys:
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Morris |
Aelod Seneddol dros Aberafan 2001 – 2015 |
Olynydd: Stephen Kinnock |