Ian Hallam

Ian Hallam
Ganwyd24 Tachwedd 1948 Edit this on Wikidata
Basford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau71 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwr rasio o Loegr ydy Ian Hallam MBE (ganwyd 24 Tachwedd 1948).[1] Cynyrchiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1968, 1972 ac ym 1976.

Ganwyd Hallam ym Masford, Swydd Nottingham.[2] Deintydd yw Hallam yn ôl ei alwedigaeth[3] ond dechreuodd rasio yn ifanc. Cafodd ganlyniadau da wrth rasio ar y ffordd, gan ddod yn drydydd yn y Lincoln GP yn 1969 ac 1970, wrth gynyrchioli Beeston RC.[4] Daeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain ym 1970 ac 1972.

Roedd yn aelod o'r tîm pursuit a enillodd fedal efydd ym 1972 ac eto yn 1976.[1] Enillodd hefyd ras goffa Eddie Soens yn 1976.[5]

Cystadlodd hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gynyrchioli Lloegr ac ennill y fedal aur yn y pursuit unigol ym 1970 ac 1974.[6]

Trodd Hallam yn reiclwr proffesiynol rhwng 1978 ac 1982 a cafodd ei noddi gan KP Crisps.

Roedd Hallam yn redio drost dîm Dataphonics yn ystod y nawdegau ynghyd a'i feibion, Ben a Duncan a oedd hefyd yn seiclwyr llwyddiannus.

Mae'n dal i gystadlu hyd heddiw, ac yn 2002 enillodd Bencampwriaethau Trac Meistri Ewrop yn y categori 50–54 oed, gan ennill y sbrint, pursuit, y treial amser a'r ras bwyntiau.[7] Ef hefyd oedd Pencampwr Pursuit Meistri'r Byd (50–54 oed) yn 2002 a 2003.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1  Ian Hallam MBE : Olympic Record. British Olympic Association.
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw SportsRef
  3. 3.0 3.1  World Masters Track Championships - CMM. Cycling News (5–9 Medi 2000).
  4.  THE LINCOLN GRAND PRIX CYCLE RACE (1956-2007) : A Race History by Mike Griffin.
  5.  47th Eddie Soens Memorial Cycle Race. British Cycling (1 Mawrth 2008).
  6.  Cycling gold medallists. BBC (22 Mehefin 2002).
  7.  European Masters Track Championships - 2002.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]