Jack Judge

Jack Judge
Ganwyd3 Rhagfyr 1878 Edit this on Wikidata
Oldbury Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1938 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
West Bromwich Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr caneuon, canwr Edit this on Wikidata

Diddanwr a chyfansoddwr caneuon o Loegr oedd John "Jack" Judge (3 Rhagfyr 187225 Gorffennaf 1938).

Ganwyd yn Oldbury, Lloegr ond oedd ei rieni'n fewnfudwyr o Iwerddon. Dechreuodd weithio yng Ngwaith Haearn Oldbury yn 12 oed. Bu farw ei dad ym 1888, a rheolodd Jack ei fusnes teuliol gwerthu pysgod yn ogystal â gweithio yn y gwaith haearn. Erbyn diwedd y 19g, roedd wedi dechrau perfformio, yn gyntaf yn Theatr Gaiety, Oldbury, ac yn bellach o gwmpas yr ardal, ac roedd wedi dechrau ysgrifennu caneuon. Daeth o'n broffesiynol yn 1910.[1]

It's a Long Way to Tipperary

[golygu | golygu cod]

Weithiau, buasai'n mentro ysgrifennu cân erbyn y diwrnod nesaf. Ar 31 Ionawr 1912, canodd o It's a long way to Tipperary yn Theatr Grand, Stalybridge, yn honni ei fod wedi ysgrifennu'r gân y noson gynt. Mae pobl yn Oldbury'n honni eu bod nhw wedi clywed y gân yn gynharach. Cyhoeddwyd y gân gan Bert Feldman Canwyd y gân gan Florrie Forde ym 1913, a recordiodd John McCormack y gân ym 1914. Canwyd y gân gan y Connaught Rangers, sydd wedi clywed fersiwn John McCormack, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a lledaenwyd y gân i gatrodau eraill.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]