Jackie Morris | |
---|---|
Ganwyd | 1961 ![]() Birmingham ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, awdur plant, artist ![]() |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway ![]() |
Awdur a darlunydd o Loegr sy'n byw yng Nghymru[1] yw Jackie Morris (ganwyd 1961). Fe fu ar restr fer Medal Kate Greenaway yn 2016 a’i hennill yn 2019 [2] am ei darluniad o The Lost Words, a bleidleisiwyd yn llyfr harddaf 2016 gan lyfrwerthwyr y DU.[3] Enillodd Wobr Tir na n-Og am y llyfr plant Seal Children.
Ganed Morris yn Birmingham ym 1961. Symudodd ei theulu i Evesham pan oedd hi'n bedair oed. Dywedodd eu hathrawon wrthi fel plentyn na allai fod yn arlunydd, ond er hynny penderfynodd daflu rhybudd i'r gwynt a dysgu paentio. Fe mynychodd Morris Ysgol Uwchradd y Tywysog Henry yn Evesham ac wedi hynny fu'n llwyddiannus yn Academi Gelf Caerfaddon .[4][5]
Wedi gadael coleg cafodd waith ym maes golygu, gan ddarlunio cylchgronau fel Radio Times, New Statesman, New Society a Country Living. Bu’n gweithio am flynyddoedd yn darlunio llyfrau ac yn 2016, roedd ar restr fer Medal Kate Greenaway am Something About a Bear. Mae'r llyfr yn cynnwys ei lliwiau dŵr o wahanol fathau o arth. Mae hi'n byw mewn tŷ bach ger y môr yng Nghymru, yn paentio, ysgrifennu a breuddwydio.
Llyfr o "swynion" gan Robert Macfarlane yw The Lost Words wedi'u darlunio gan Morris, a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood dan y teitl Y Geiriau Diflanedig[6]. Mae gan y llyfr gliwiau i eiriau megis mes a mwyar duon. Dywedwyd bod y llyfr wedi'i ysbrydoli gan rifynnau'r 21ain ganrif o'r Oxford Junior Dictionary lle hepgorwyd rhai geiriau fel kingfisher sy'n gysylltiedig â natur er mwyn cynnwys termau technegol fel attachment, broadband a chatroom.[7] Yn 2017, anfonodd Laurence Rose lythyr protest i’r geiriadur a lofnodwyd gan Margaret Atwood, Sara Maitland, Michael Morpurgo, Andrew Motion, Macfarlane, a Morris. Mi fu hyn yn pwnc llosg a'r canlyniad creadigol oedd syniad ar gyfer gwaith ar y cyd gan McFarlane a Morris.[8]