Jacobo Langsner

Jacobo Langsner
Ganwyd23 Mehefin 1927 Edit this on Wikidata
Romuli Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 2020 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Rwmania Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWaiting for the Hearse, Q5826896 Edit this on Wikidata
Arddulltheatr Edit this on Wikidata

Dramodydd a sgriptiwr o Wrwgwái oedd Jacobo Langsner (23 Mehefin 192710 Awst 2020).

Ganed ef yn Rwmania, a symudodd ei deulu i Wrwgwái ym 1930 pan oedd Jacobo yn dair oed. Cychwynnodd ar ei yrfa yn y theatr ym Montevideo yn 20 oed, ac ymhlith ei weithiau cynnar oedd El hombre incompleto (1951), El juego de Ifigenia (1953), a Los artistas (1953). Ymsefydlodd Langsner ar ochr draw'r Río de la Plata, yn Buenos Aires, ym 1958, a daeth yn ffigur blaenllaw yn y theatr Archentaidd yn ogystal â'r theatr Wrwgwaiaidd.[1]

Ei ddrama enwocaf oedd Esperando la carroza, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn theatr y Comedia Nacional ym Montevideo ar 12 Hydref 1962. Cafodd ei haddasu'n ffilm gomedi boblogaidd ym 1985, wedi ei chyfarwyddo gan yr Archentwr Alejandro Doria. Cafodd Langsner lwyddiant mawr arall gydag El tobogán ym 1970.[1]

Wedi i'r jwnta filwrol gipio grym yn yr Ariannin ym 1976, aeth Langsner yn alltud i Fadrid, Sbaen, nes iddo ddychwelyd wyth mlynedd yn ddiweddarach yn sgil cwymp y jwnta.[1] Ymhlith ei ddramâu diweddar mae De mis amores (1992), Otros paraísos, a Damas y caballeros (2004). Ysgrifennodd hefyd nifer o sgriptiau ar gyfer y teledu a'r sinema, gan gynnwys y ffilmiau Darse cuenta (1984, gydag Alejandro Doria) a Cohen vs. Rosi (1998). Bu farw Jacobo Langsner yn Buenos Aires yn 93 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) "Murió Jacobo Langsner, destacado dramaturgo y autor de Esperando la carroza", La Nacion (10 Awst 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Rhagfyr 2022.
  2. (Sbaeneg) "Murió Jacobo Langsner, autor de “Esperando la carroza”", Clarín (10 Awst 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Awst 2020.