James Childs Gould | |
---|---|
Ganwyd | 9 Medi 1882 Caerdydd |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1944 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Roedd James Childs Gould (9 Medi 1882 - 2 Gorffennaf 1944) yn ddiwydiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Caerdydd Canolog rhwng 1918 a 1924.
Ganwyd Gould yng Nghaerdydd yn fab i Richard Gould, saer maen a’i ach yn Nyfnaint[1].
Cafodd ei addysgu yn yr Higher Grade School, Caerdydd[2]
Ym 1908 priododd Mai B. Flagg, o Grand Manan, New Brunswick.[2]
Ymadawodd Gould a’r ysgol yn 14 mlwydd oed gan ddechrau gweithio am 4 swllt yr wythnos.
Ym 1901 cafodd swydd fel morwr cyffredin ar y llong Clan Graham, hwyliodd i Dde Affrica lle bu’n gweithio fel labrwr tameidiog; symudodd o Dde’r Affrica i Efrog Newydd lle fu’n gweithio i gwmni yswiriant.[3]
Ym 1912 agorodd ei gwmni yswiriant ei hun yn Llundain gyda swyddfeydd yng Ngwlad Belg a’r Almaen. Daeth y busnes i ben cyn pen blwyddyn ac enillodd Gould dyfarniad o £20,000 yn erbyn partner iddo yn Efrog Newydd am gamliwiad [4]
Ym 1915, gyda chyfalaf o £200 ymrwymodd Gould i brynu’r llong SS Dartsmouth am £36,000. O herwydd yr angen am longau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gludo milwyr a nwyddau bu’r fenter yn hynod lwyddiannus gan ddod a chyfalaf i Gould a’i gwmni, Goulds Steamships & Industrials Ltd o £60,000 o fewn 6 mis. Ail fuddsoddodd yr elw gan brynu llynges a busnes adeiladu llongau gwerth £1,000,000. Erbyn diwedd y Rhyfel amcangyfrifid bod ffortiwn bersonol Gould tua £2 miliwn. Wedi’r rhyfel bu dirwasgiad mawr yn y sector morwrol, gyda nifer y cwmnïau llongau yng Nghaerdydd yn syrthio o 150 i 77; aeth cwmni Gould i fethdaliad gyda dyledion o dros £750,000 ym Mai 1925 [5]. Ym Mawrth 1926 cafodd ei ryddhau o’i fethdaliad ar amod o dalu £50,000 tuag at ei ddyledion [6]. Methodd i dalu’r £50,000 a chafodd ei wneud yn fethdalwr eto ym 1933 [7]. Cafodd ei ddyfarnu’n rhydd o’r ail fethdaliad, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, ym Mehefin 1934[8]
Bu Gould yn aelod o Gyngor Dinas Caerdydd rhwng 1917 a 1918. Safodd yn enw ‘’Plaid yr Unoliaethwr’’ (y Blaid Geidwadol, i bob pwrpas) yn etholiadau 1918, 1922[2] a 1923 gan ennill yn etholaeth Caerdydd Canolog. Gan fod ei ddyledwyr yn ymgynnull, ac nad oedd modd i fethdalwr bod yn Aelod Seneddol, penderfynodd beidio ag ymladd etholiad 1924, a daeth ei gyrfa Seneddol i ben.
Bu farw yn ei gartref yn Culsdon, Sussex yn 62 mlwydd oed[3]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Caerdydd Canolog 1918 – 1924 |
Olynydd: Lewis Lougher |