Jane Tomlinson | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1964 Wakefield |
Bu farw | 3 Medi 2007 Leeds |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon |
Roedd Jane Emily Tomlinson, CBE (née Goward) (21 Chwefror 1964 – 3 Medi 2007) yn athletwraig amatur Seisnig a ddaeth yn enwog yn Mhrydain am godi £1.5 miliwn ar gyfer elusen gan gyflawni cyfres o sialensau athletaidd, er ei bod yn dioddef o gancr terfynol.[1]
Wedi cael ei 'gwella' o afiechyd cancr y fron yn 1991, yn 26 oed, dychwelodd yr afiechyd drwy gydol ei chorff yn 2000.[2] Yn ystod y chwe mlynedd canlynol, cyflawnodd Tomlinson Farathon Llundain dair gwaith, a Triathlon Llundain ddwywaith, Marathon Efrog Newydd unwaith a seiclodd ar draws Ewrop, Yr Unol Daleithiau ac Affrica.[2] Bu farw Jane Tomlinson yn 2007, yn 43 oed.
Ganed yn Wakefield yn Swydd Efrog yn 1964, y chweched o ddeg o blant i ddeintydd.[2][3] Pan yn 11 oed, symudodd y teulu i Awstralia, ond dychwelont ar ôl tair blynedd.[2] Yn 1990, gwnaeth Tomlinson gais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Leeds. Ond, canfodd lwmp ar ei bron a bu gorfod iidi gael lumpectomy, cofresrodd yn lle yn Ysbyty Gyffredionol Leeds ac astudiodd i ddod yn radiolegwraig.[2] Erbyn hyn, roedd wedi priodi Mike Tomlinson a chael dwy ferch, Suzanne a Rebecca.[4] Yn ddiweddarach cafont fab, Steven.[2][4] Wedi cymhwyso yn 1993, aeth Tomlinson i astudio ar lefel uwchraddedig i ddod yn Radiolwraig Gwyddor clefyd plant.[2] Tair mlynedd wedi cael y driniaeth lumpectomy, dychwelodd y gancr a bu'n rhaid iddi gael mastectomy, a dau rownd o driniaeth Cemotherapeg a thriniaeth Radioleg.[2] Yn 2000, cafodd wybod fod y gancr wedi lledaenu i'w hesgyrn a'i hysgyfaint. Amcangyfrwyd mai ond 12 mis oedd ganddi ar ôl i fyw.[2][3]
Wedi darganfod fod ei chancr yn derfynol yn 2000, penderfynodd Jane Tomlinson ddechrau ar gyfres o farathonau a sialensau athletaidd eraill er mwyn codi arian ar gyfer elusennau. Creodd gyfundrefn ymarfer a chymerodd rhan yn ei marathon cyntaf ym Mai 2001, ras 5 km Race for Life.[2][2] Yn Rhagfyr 2001, cymerodd ran yn y Leeds Abbey Dash.[3] Yn Ebrill 2002, rhedodd Farathon Llundain am y tro cyntaf ac yn ddiweddarach, Marathon Efrog Newydd.[2] Cyflwynwyd Jane Tomlinson gyda Jubilee baton y frenhines yn Leeds yng Ngorffennaf yr un flwyddyn, cyflawnodd Triathlon Llundain mis Awst ac y Great North Run ym mis Hydref.[3]
Cyflawnodd y Ironman Triathlon, yr unig person a oedd yn dioddef o gancr terfynol i wneud hynnu erioed.[5] Cyflawnodd ddwy hanner Ironman yn ogystal.[5] Derbynodd Wobr Helen Rollason yn Personoliaeth Chwaraewyr y Flwyddyn y BBC yn 2002 a gwnaethwyd hi'n MBE yn 2003.[5][6] Rhwng Mawrth ac Ebrill 2003 hefyd, seiclodd o John o' Groats i Land's End gyda'i brawd, Luke Goward, pellter o 1060 o filltiroedd.[2][5] Y flwyddyn canlynol defnyddiont tandem i seiclo 2000 milltir ar drawst Ewrop, o Rufain i Leeds, a dringont Mont Ventoux yn ystod y daith.[2][3]
Derbynnodd Jane ar un adeg, 2500 llythyr yr wythnos gan y cyhoedd oherwydd ei phroffil cyhoeddus.[2] Er bu i sawl bapur newydd tabloid honi nad oedd ei chancr yn derfynol. Honiad a gafodd ei brofi'n anwir.[2] Derbyniodd sawl galwad ffôn amharchol hefyd.[7] Yn 2005, enillodd wobr Pride of Britain.[3]
Yn Gorffennaf ac Awst 2006, gwariodd Tomlinson naw wythnos yn seiclo 4200 milltir ar draws yr Unol Dalieithau, gan godi £250,000.[3][5] Hon oedd ei sialens athletaidd olaf.[8]
Ar ôl iddi gyhoeddi The Luxury of Time yn 2005, rhyddhaodd ail bennod ei chofianau You Can't Take It With You yn 2006.[2] Yn Ionawr 2007, lawnsiodd Mike a Jane Tomlinson Jane Tomlinson's Run For All, ras redeg elusennol 10 km a ddigwyddodd yn Mehefin y flwyddyn honno.[9] Ar ôl iddi gael pedwar cwrs o driniaeth cemotherapi, datblygodd clefyd y galon cronig.[5] Codwyd hi i lefel anrhydedd CBE yn Mehefin 2007, bu Jane Tomlinson farw yn Llety San Gemma, Leeds, llai na tair mis yn ddiweddarach ar 3 Medi.[4][5]