Jean Drapeau | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1916 Montréal |
Bu farw | 12 Awst 1999 Montréal |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Maer Montreal, cyfreithiwr |
Swydd | Maer Montreal, Maer Montreal |
Plaid Wleidyddol | Civic Action League, Civic Party of Montreal |
Gwobr/au | Silver Olympic Order, Cydymaith o Urdd Canada, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Uwch Swyddog Urddd Cenedlaethol Cwebéc, honorary doctorate from the McGill University, Doethuriaeth er Anrhydedd Université de Montréal, doctor honoris causa, Quebec Sports Hall of Fame |
llofnod | |
Cyfreithiwr a gwleidydd o Ganada oedd Jean Drapeau (18 Chwefror 1916 – 12 Awst 1999). Maer Montréal oedd ef am ddwy ysbaid, o 1954 hyd 1957 ac o 1960 hyd 1986.
Gwelwyd adfywio'r ddinas o dan ei weinyddiaeth, gan gynnwys prosiectau mawr megis y metro, neuadd gyngerdd y Place des Arts, ac arddangosfa'r Expo (1967). Cyflwynodd loteri gyhoeddus gyntaf Canada ym 1968 fel ffordd i gylludo'r ddinas, syniad a ddilynwyd yn ddiweddarach ar lefel daleithiol. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd ym Montréal dan ei arweinyddiaeth ym 1976. Er gwaethaf llwyddiant y gemau, parhaodd baich y dyledion a achosasant am blynyddoedd maith. Ar ôl iddo ymddeol o fywyd gwleidyddol ym 1986, fe'i penodwyd fel cenhadwr Canada i UNESCO ym Mharis, swydd a gyflawnodd am bedair blynedd o 1987 hyd 1991. Bu farw ym 1999.