Jennifer Lynch | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1968 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ysgrifennwr, actor |
Tad | David Lynch |
Mam | Peggy Reavey |
Partner | Andrew J. Peterson |
Plant | Sydney Lynch |
Cyfarwyddwr ffilm a theledu Americanaidd yw Jennifer Lynch (ganwyd 7 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur. Mae'n ferch i'r gwneuthurwr ffilm David Lynch ac yn awdur y llyfryn The Secret Diary of Laura Palmer (990).[1][2][3][4]
Fe'i ganed yn Philadelphia, Pennsylvania ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Ganolfan y Celfyddydau, Interlochen, Michigan.
Mae hi'n ferch i'r artist a'r gwneuthurwr ffilmiau David Lynch, sy'n tarddu o'r Ffindir[5], a'r arlunydd Peggy Reavey. Dechreuodd ymarfer Myfyrdod Trosgynnol yn chwech oed.[6] Graddiodd Lynch o'r Academi Gelf Interlochen lle astudiodd y celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol.
Denodd sgript, a gomisiynwyd gan Lynch ar gyfer Boxing Helena, lawer o actoresau, gan gynnwys Madonna. Yn y pen draw, castiwyd Sherilyn Fenn, un o'r sêr yng nghyfres deledu ei thad Twin Peaks a'r ffilm Wild at Heart, fel y prif gymeriad Helena. Roedd Kim Basinger hefyd ynghlwm ac fe gafodd ei siwioar ôl ymddiswyddo o’r prosiect. Roedd y ddadl ynghylch yr achos hwnnw, yn ogystal â gwaedd gan ffeministiaid oherwydd testun sadistaidd Helena a chyhuddiadau o nepotistiaeth, yn cyd-fynd â beirniadaeth o'r ffilm wedi iddi gael ei rhyddhau ym 1993.
Yn dilyn cyfnod tawel eitha hir, dychwelodd Lynch i'r arena gyhoeddus gyda'r ffilm Surveillance (Gwyliadwriaeth) ac, ym mis Hydref 2008, enillodd Surveillance y brif wobr yn yr Festival de Cine de Sitges.[7] Fis yn ddiweddarach, Lynch oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gwobr Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Arswyd Dinas Efrog Newydd.[8]
Blwyddyn | Teitl | Sgwennwr | Cynhyrchydd | Y prif gast | Nodiadau |
1993 | Boxing Helena | Jennifer Lynch, Philippe Caland | Philippe Caland | Sherilyn Fenn, Julian Sands, Bill Paxton | |
2008 | Surveillance | Jennifer Lynch, Kent Harper | David Lynch, Kent Harper, Marco Mehlitz, David Michaels | Bill Pullman, Julia Ormond, French Stewart | |
2010 | Hisss | Jennifer Lynch | Vikram Singh, Govind Menon | Mallika Sherawat, Irrfan Khan | Gwadodd y ffilm |
2012 | Chained | Jennifer Lynch, Damian O'Donnell | Rhonda Baker, David Buelow, Lee Nelson | Vincent D'Onofrio, Eamon Farren, Julia Ormond | Hefyd ymddangosiad cameo |
TBA | A Fall from Grace | Jennifer Lynch, Eric Wilkinson | David Lynch, Forest Whitaker, Tim Roth, Paz Vega, Vincent D'Onofrio, Willow Shields | Ôl-gynhyrchiad | |
2022 | Dahmer – Monster: The Jeffrey Dahmer Story | Jennifer Lynch | Netflix | Evan Peters, Niecy Nash, Richard Jenkins, Penelope Ann Miller, Shaun J. Brown ve Colin Ford | Netflix |