Jim Bowen | |
---|---|
Ganwyd | Peter Williams 20 Awst 1937 Heswall |
Bu farw | 14 Mawrth 2018 Melling-with-Wrayton |
Man preswyl | Swydd Gaerhirfryn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, digrifwr stand-yp |
Gwefan | http://www.jimbowen.tv |
Roedd James Whittaker (ganwyd Peter Williams, 20 Awst 1937 – 14 Mawrth 2018) yn cael ei adnabod wrth ei enw llwyfan Jim Bowen; roedd yn gomedïwr ac yn bersonoliaeth teledu yn yr iaith Saesneg. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y rhaglen cwis a darts Bullseye ar ITV rhwng 1981 a 1995[1].
Ganwyd Bowen yn Heswall, Penbedw. Cafodd ei fabwysiadu gan Joe ac Annie Whittaker (a newidiwyd ei enw i James Whittaker). Cafodd ei fagu yn Clayton-le-Moors, Swydd Gaerhirfyn a'i addysgu yn ysgol ramadeg Accrington gan ymadael efo dim ond un lefel O. Wedi ymadael a'r ysgol bu'n gweithio fel dyn lludw (dyn bins) yn Burnley.
Cyflawnodd Bowen gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chorfflu Brenhinol Ordnans y Fyddin rhwng 1955 a 1957, fel hyfforddwr ymarfer corff. Wedi ymadael a'r fyddin aeth i Goleg Hyfforddi Esgobol Caer i hyfforddi i fod yn athro ymarfer corff. Cafodd ei benodi'n ddirprwy brifathro ysgol gynradd Caton, Swydd Gaerhirfryn[2].
Y tu allan i'w oriau gwaith fel athro bu Bowen yn aelod o gwmni drama lleol, gan fagu diddordeb yn y maes perfformio. Yn y 1960au bu'n gweithio gyda'r nos fel comedïwr mewn clybiau gwaith, gan barhau i weithio fel athro yn ystod y dydd. Ym 1971 dechreuodd cwmni teledu Granada ddarlledu rhaglen gomedi o'r enw The Comedians a oedd yn cynnwys slotiau byr gan bron i hanner cant o gomediwyr a oedd yn gweithio'r cylchdeithiau clwb. Bu Bowen yn un o'r rhai hynny a ymddangos ar y rhaglen. Wedi llwyddiant y Comedians rhoddodd y gorau i'w gwaith fel athro gan weithio llawn amser yn y byd adloniant[3]. Ymddangosodd ar nifer o raglenni gan gynnwys The Wheeltappers and Shunters Social Club, The Last of the Summer Wine a'r gyfres dditectif Jonathan Creek.
Ym 1981 daeth Bowen yn gyflwynydd rhaglen-gêm newydd ar ITV o'r enw Bullseye a oedd yn cymysgu cwis gwybodaeth cyffredinol gyda dartiau. Daeth y sioe yn boblogaidd iawn gan ddenu cynulleidfaoedd o 15 i 17 miliwn o wylwyr. Parhaodd y gyfres am 14 mlynedd.
Ym 1959 priododd Bowen cyd athro iddo Phyllis Owen a bu iddynt fab a merch.
Bu farw o strôc ar 14 Mawrth 2018 yn 80 mlwydd oed.