Joanna Southcott | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ebrill 1750 Dyfnaint |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1814 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | esgob esgobaethol |
Ffanatig crefyddol o Saesnes oedd Joanna Southcott (Ebrill 1750 – 27 Rhagfyr 1814). Roedd ei dilynwyr yn credu ei bod yn broffwydoles a feddai ar gyfrinachau mawr.
Cafodd ei geni yn ferch i ffermwr yn Nyfnaint tua'r flwyddyn 1750. Yn 1792 cyhoeddodd mai hi oedd y broffwydoles y cyfeirir ati yn Llyfr y Datguddiad, pennod xii. Aeth i Lundain ar wahoddiad yr engrafwr William Sharp (1749-1824). Ysgrifennodd dros 200 o bamffledi a llyfrau proffwydol, yn cynnwys A Warning (1803) a The Book of Wonders (1813-1814). Ymhlith ei disgyblion oedd y golygydd a geiriadurwr o Gymro William Owen Pughe, a weithredai fel ffactotwm iddi.
Yn 1814 cyhoeddodd ei bod am roi genedigaeth i'r "Ail Dywysog Heddwch" - sef y Meseia newydd - ar 19 Hydref y flwyddyn honno. Ond dioddefodd coma ar yr ymenydd a bu farw ym mis Rhagfyr.[1]
Credir fod gan Southcott hyd at 100,000 o ddisgyblion ar un adeg, a elwid yn 'Southcottiaid'. Daliodd rhai o'i disgyblion i gredu ynddi er gwaethaf hyn ac ni fu farw ei chwlt yn gyfangwbl. Gadawodd ar ei hôl flwch o broffwydoliaethau gyda'r cyfarwyddiad i'w agor ym mhresenoldeb pob esgob o Eglwys Loegr ar achlysur "argyfywng cenedlaethol." Mae rhai pobl yn honni hyd heddiw fod y blwch yn bodoli, er i flwch o'i heiddo gael ei agor oedd yn cynnwys dim byd ond papurach a phistol.