John Bunyan | |
---|---|
Ganwyd | 28 Tachwedd 1628 Elstow |
Bu farw | 31 Awst 1688 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, llenor, pregethwr, nofelydd, Tincer |
Adnabyddus am | Taith y Pererin |
Arddull | alegori |
Priod | gwraig cyntaf John Bunyan, Elizabeth Bunyan |
llofnod | |
Awdur crefyddol o Loegr oedd John Bunyan (28 Tachwedd 1628 – 31 Awst 1688).[1] Roedd yn Biwritan argyhoeddedig. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r alegori hir Taith y Pererin (The Pilgrim's Progress), un o'r llyfrau Cristnogol mwyaf dylanwadol erioed.
Ganwyd Bunyan yn Elstow ger Bedford, yn fab i dincer (trwsiwr offer metal domestig o bob math). Yn 1649 priododd ferch dlawd ac yn fuan wedyn dechreuodd gael cyfres o brofiadau crefyddol mewnol dwys a ddisgrifir yn ei gyfrol ddylanwadol Grace Abounding.
O 1653 ymlaen bu'n pregethu i gynulleidfaoedd Anghydffurfiol o gwmpas Bedford. Daeth i gysylltiad â George Fox, arweinydd y Crynwyr, ac ysgrifennodd draethawd yn ymosod ar gred yr enwad honno.
Ym 1660 cafodd Bunyan ei arestio mewn ffermdy ger Ampthill a threuliodd y ddeuddeg blynedd nesaf yn y carchar. Yno yr aeth ati i lenydda mewn difrif ac mae nifer o'i weithiau mawr yn dyddio i'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys Grace Abounding (1666).
Mae gweithiau Bunyan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn y 19g prin oedd y capelwyr na cheid copi o waith Bunyan yn eu cartref.