John Cowper Powys | |
---|---|
Ganwyd | 8 Hydref 1872 Shirley |
Bu farw | 17 Mehefin 1963 Blaenau Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, athronydd, llenor, beirniad llenyddol |
Adnabyddus am | A Glastonbury Romance, Owen Glendower (nofel), Wolf Solent, Porius: A Romance of the Dark Ages |
Tad | Charles Francis Powys |
Priod | Margaret Alice Powys |
Plant | Littleton Alfred Powys |
Nofelydd ac athronydd o Loegr a ymgartrefodd yng Nghymru yn y rhan olaf o'i oes oedd John Cowper Powys (8 Hydref 1872 - 17 Mehefin 1963). Clerigwr oedd ei dad a darddai o ardal Powys. Roedd ei fam yn perthyn i'r bardd Saesneg William Cowper, ble cafodd John Cowper ei enw canol. Fe oedd yr hynaf mewn teulu o 12 o blant ac roedd dau o'i frodyr, Llewelyn a Theodore, hefyd yn sgwennwyr.