John Davies | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Ebrill 1938 ![]() Treorci ![]() |
Bu farw | 16 Chwefror 2015 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Y Celtiaid, Hanes Cymru ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ![]() |
Hanesydd o Gymru oedd John Davies (25 Ebrill 1938 – 16 Chwefror 2015),[1] a oedd hefyd yn adnabyddus fel darlledwr. Ei lyfr enwocaf oedd Hanes Cymru (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.
Ganed John Davies yn Ysbyty Llwynypia, Rhondda Fawr yn fab i Mary (née Potter) a Daniel Davies o Heol Dumfries, Treorci.[2][3] Magwyd yn Nhreorci ond symudodd ei deulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed a felly daeth yn adnabyddus i lawer fel John Bwlch-llan neu Bwlchws. Addysgwyd ef yn ysgolion Treorci, Bwlch-llan a Thregaron, yna ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i Gaerdydd. John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[4]
Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn ystod Gŵyl Machynlleth am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru. Bu hefyd yn olygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.[5]
Fe'i ddyfarnwyd yn Gymrodor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2013 a sefydlwyd Gwobr Goffa Dr John Davies am y traethawd Hanes Cymru orau yn ei enw yn 2015.
Priododd ei wraig Janet (nee Mackenzie) yn 1966. Roedd hithau yn hanesydd ac yn frodor o Flaenau Gwent. Cawsant pedwar o blant sef Anna, Beca, Guto and Ianto.
Mewn cyfweliad gyda HTV Cymru yn Nhachwedd 1998, daeth allan fel dyn deurywiol.[1]
Bu farw o gancr yn 76 mlwydd oed.[6] Cynhaliwyd ei angladd yn breifat ar ddydd Iau, 26 Chwefror 2015. Cafwyd digwyddiad i ddathlu ei fywyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Gwener, 17 Ebrill 2015.[7]