John Edward Jones | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1840 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 10 Ebrill 1896 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Governor of Nevada |
Plaid Wleidyddol | Silver Party |
Priod | Elizabeth Jones-Sifford |
llofnod | |
Roedd John Edward Jones (5 Rhagfyr, 1840 – 10 Ebrill, 1896) yn wleidydd Americanaidd. Ef oedd wythfed Llywodraethwr Talaith Nevada.[1] Roedd yn aelod o'r Blaid Arian (cyn blaid yn yr UD oedd yn cefnogi mwy o ryddid i fathu arian) .
Ganed Jones yn Llanfihangel yng Ngwynfa Sir Drefaldwyn yn fab i Edward Jones a Mary ei wraig.[2] Fodd bynnag symudodd ei deulu i Iowa ym 1856. Derbyniodd ei addysg elfennol yn ysgolion cyffredin ei Gymru frodorol. Graddiodd o Brifysgol Talaith Iowa ym 1865.[3] Priododd Elizabeth Weyburn ar 25 Tachwedd, 1880, bu iddynt ddau o blant, Edith ac Arvin.[4]
Fel dyn ifanc, bu Jones yn gweithio fel glowyr, ffermwr ac athro. Ym 1867, bu'n gweithio ar adeiladu'r Rheilffordd Union Pacific. Wrth ymgartrefu yn Eureka, Nevada ym 1869, bu'n chware ran wrth drefnu milisia Nevada ym 1876 gan gael ei ddyrchafu'n uwchgapten.[5]
Bu Jones yn gweithio ym meysydd mwyngloddio ac amaethyddiaeth hyd 1883, pan gafodd ei benodi'n Ddirprwy Gasglwr Refeniw Mewnol Nevada. O 1886 i 1894, roedd yn Syrfëwr Cyffredinol Nevada, gan wasanaethu am ddau dymor.
Ymddiswyddodd Jones o swydd y Syrfëwr Cyffredinol, ym 1894 er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer penodi Llywodraethwr Nevada ar docyn y Blaid Arian (The Silver Party). Enillodd yr etholiad gan gychwyn ar ei waith fel Llywodraethwr ym mis Ionawr 1895. Yn ystod ei ddaliadaeth, cefnogodd rhaglenni dyfrhau a sefydlodd llyfrgell gyhoeddus gyntaf y wladwriaeth yn Reno, Nevada. Yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr bu'n fyw yn Carson City, Nevada.[6] Wedi derbyn diagnosis meddygol o ganser yn nhymor yr Hydref 1895, cymerodd gyfnod o absenoldeb, gan roi cyfrifoldebau'i swydd i'r Is lywodraethwr Reinhold Sadler. Teithiodd i San Francisco, California i geisio gwellhad.
Bu farw Jones, wedi colli ei frwydr gyda chanser, ar 10 Ebrill, 1896, yn San Francisco yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Lone Mountain, Carson City, Nevada.[7]