John Elias | |
---|---|
John Elias. Portread gan William Roos (1839) | |
Ganwyd | 6 Mai 1774 Aber-erch |
Bu farw | 8 Mehefin 1841 Llangefni |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pregethwr |
Pregethwr enwog o Gymro oedd John Elias (ganwyd John Jones, 6 Mai 1774 - 8 Mehefin 1841). Bu'n ffigwr allweddol yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru a chafodd y llysenw "Y Pab Methodistaidd". Nai iddo oedd y llenor a beirniad John Roose Elias, "Y Thesbiad" (1819-1881).
Cafodd ei eni yn Y Crymllwyn, Abererch ger Pwllheli, lle treuliodd ei lencyndod. Arferai fynychu'r gwasanaeth yn yr eglwys yn y bore, gyda'i dad, ac yna gwrando ar bregethwyr Ymneilltuol crwydrol gyda'r nos. Ymwelodd â Sasiwn Y Bala yn 1792 lle dyfnheuwyd ei argyhoeddiad. Gadawodd ei gartref teuluol ac aeth i fyw gyda Griffith Jones ym Mhenmorfa, gwehydd wrth ei grefft a phregethwr lleol adnabyddus a dechreuodd arwain gweddïau cyhoeddus. Cafodd ei dderbyn yn y Cyfarfod Misol yn aelod o Bresbyteriaeth Sir Gaernarfon ar Ddydd y Nadolig 1794, yn ugain oed. Priododd Elizabeth Broadhead, merch Richard Broadhead o blwyf Llanbadrig, ar 22 Chwefror 1799 ar ôl symud i fyw ym Ynys Môn. Yn 1811 ef oedd y gweinidog cyntaf i gael ei ordeinio pan ffurfiwyd yr Eglwys Fethodistaidd Gymreig yn y flwyddyn honno. Bu farw Elizabeth ar Ebrill 2, 1828. Cafodd bedwar o blant ganddi ond bu farw dau yn ifanc. Priododd eto yn 1830 a symud i fyw yn Llangefni, llu treuliodd weddill ei oes. Bu farw ar 8 Mehefin, 1841, a'i gladdu ym mynwent eglwys Llan-faes. Dywedir fod 10,000 o bobl o bob gradd wedi mynychu'r angladd.
Cyfyng iawn oedd ei ddiwinyddiaeth. Roedd yn Galfinydd digyfaddawd a arddelai Uchel-Galfiniaeth a gwirionedd lythrennol pob gair yn y Beibl. Roedd yn geidwadol o ran ei wleidyddiaeth a gwrthwynebai'n llym pob Radicaliaeth wleidyddol a chymdeithasol, yn arbennig y cysyniad poblogaidd ymhlith rhai Anghydffurfwyr mai llais y werin bobl yw llais Duw.