John Howard Purnell | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1925 Y Rhondda |
Bu farw | 12 Ionawr 1996 Abertawe |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd |
Gwobr/au | OBE, Beilby Medal and Prize |
Cemegydd o Gymru oedd John Howard Purnell OBE FRSC[1] (17 Awst 1925 — 12 Ionawr 1996).[2]
Mynychodd Ysgol Sir Maes y Dderwen yn Ystradgynlais cyn mynychu Ysgol Uwchradd Pentre.[3]
Ar ôl graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd yn 1946 aeth ymlaen i Brifysgol Cymru a derbyniodd PhD yn 1952.[3]
Dechreuodd Purnell weithio ym maes cromatograffaeth nwy yn y maes hwn ym 1952 ym Mhrifysgol Caergrawnt tra'n gweithio gyda'r Athro R. G. W. Norrish.[3] Ym 1965 daeth yn Athro Cemeg Ffisegol yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1992
Roedd yn llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol rhwng 1994 a 1996.