John Humphrys | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1943 Y Sblot |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Priod | Valerie Sanderson |
Mae Desmond John Humphrys (ganwyd 17 Awst 1943) yn awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd radio a theledu Cymreig. O 1981 i 1987 roedd yn brif gyflwynydd Newyddion Naw o'r Gloch, prif raglen newyddion Prydeinig y BBC. Rhwng 1987 a 2019 roedd yn cyflwyno rhaglen arobryn BBC Radio 4, Today. Ers 2003 mae wedi bod yn gyflwynydd y cwis teledu "anoddaf un" – Mastermind.
Mae gan Humphrys enw da fel cyfwelydd dygn a phlaen; o bryd i'w gilydd mae gwleidyddion wedi bod yn feirniadol iawn o'i arddull ar ôl cael eu cyfweld yn llym ganddo ar radio a theledu byw.[1]
Cafodd Humphrys ei eni yn Pearl Street, Sblot, Caerdydd yn fab i Edward George Humphrys, Cwyrydd Ffrenig, a Winifred Mary (cynt Matthews), triniwr gwallt. Roedd yn un o bump o blant. Brawd iddo oedd Bob Humphrys gohebydd chwaraeon BBC Cymru.[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd gan adael yr ysgol yn 15 oed i gychwyn gyrfa yn y byd newyddiadurol.
Ar ôl gadael yr ysgol cafodd ei benodi'n ohebydd dan hyfforddiant ar y Penarth Times cyn cael ei benodi yn gyw ohebydd ar y Western Mail ac yna'n ohebydd teledu ar TWW. Ymunodd â'r BBC ym 1966 fel gohebydd rhanbarthol Lerpwl a gogledd orllewin Lloegr, cyn cael ei ddyrchafu'n ohebydd tramor. Fel gohebydd tramor fu'n gyfrifol am ohebu'r newyddion am ymddiswyddiad Richard Nixon o arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Ym 1981 daeth yn brif angor rhaglen Newyddion Naw y BBC gan gadw'r swydd hyd 1987 pan gafodd ei benodi'n brif gyflwynydd rhaglen newyddion Today ar Radio 4 fel olynydd i John Timpson. O 1993 hyd 2003 bu'n gyflwynydd y rhaglen deledu On The Record [3] Cyhoeddodd yn Chwefror 2019 y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno Today gan ddweud y dylai fod wedi gadael "flynyddoedd yn ôl". Darlledodd ei sioe olaf ar fore 19 Medi 2019.[4]